Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod
Cyfrifiannell pellter
Hidlwyr Map
Customise your trip with our filters.
Hidlwyr Map
Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.
Cyffredinol Marchogaeth BeicioLlety
Pwyntiau o ddiddordeb
Gwasanaethau
Llwybrau
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter i dynnu llinell.
Mae hanes castell ysblennydd Caeriw’n mynd yn ôl dros 2,000 o flynyddoedd. Mewn lleoliad bendigedig uwchlaw pwll melin 23 erw, mae’r castell yn dangos sut y datblygodd o fod yn gadarnle Normanaidd i fod yn blasty gwledig yn Oes Elisabeth I. Mae digonedd i’w weld a’i wneud yma gyda rhaglen gyffrous o weithgareddau.
Mae’r safle’n cynnwys croes Geltaidd drawiadol o’r 11eg ganrif, yr unig felin lanw sydd wedi cael ei hadfer yng Nghymru, pont ganoloesol a lle picnic, a’r cyfan wedi’u cysylltu â llwybr cerdded cylchol milltir o hyd sy’n cynnig golygfeydd di-ddiwedd o’r castell, a llwybr mynediad hawdd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis.