Dewiswch y tabiau â saethau glas isod am ragor o fanylion
Mae gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol i gynhyrchu Cod fel sy’n cael ei nodi yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
Ein dyletswydd statudol yw diweddaru’r Cod a sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb.
Sefydlodd Deddf 1949 Barciau Cenedlaethol, Llwybrau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Roedd y Cod Cefn Gwlad gwreiddiol yn annog pobl i fwynhau ymweld â’r lleoedd arbennig hyn ond hefyd i werthfawrogi eu rhinweddau cynhenid a pharchu bod eraill yn byw ac yn gweithio yno. Felly roedd angen i bobl ddilyn rhai rheolau sylfaenol e.e. aros ar y llwybrau troed, peidio â difrodi ffensys a chadw cŵn dan reolaeth.
Mae fersiwn diwygiedig 2021 o’r Cod yn cynnwys yr un negeseuon sylfaenol, sef diogelu’r amgylchedd a pharchu pobl eraill sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r awyr agored gan fwynhau’r profiad mewn modd diogel.
Mae’n ddarn pwysig o waith statudol ar gyfer Cymru a Lloegr sy’n annog pobl i dreulio amser yn yr awyr agored gyda hyder a deall bod eraill yn byw ac yn gweithio yno, ac mae hefyd yn rhoi cyngor i berchnogion a rheolwyr tir ynglŷn â rheoli mynediad ar eu tir.
Mae’r Cod yn adnodd pwysig i’n helpu ni i gyd i deimlo’n hyderus wrth fwynhau mannau awyr agored a gwybod sut i wneud hynny mewn modd diogel a pharchus.
Gall y Cod ein helpu ni i gyd i gael ymdeimlad o gysylltiad â’n mannau naturiol ac rydym yn fwy tebygol o wneud y peth iawn yn sgil hynny.
Mae gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol i gynhyrchu’r Cod, sy’n gyngor swyddogol gan y llywodraeth, ond nid yw’n ddogfen gyfreithiol sy’n rhwymo ac nid oes gennym unrhyw bwerau o dan y Cod.
(Sylwch na fydd y Cod Cefn Gwlad yn datrys pob problem a godir. Mae gwahanol agweddau ar y Cod wedi eu hategu gan gyfraith benodol yn eu hachos nhw, e.e. mae gyrru beiciau modur yn anghyfreithlon ar lwybrau troed yn dod o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae rhai is-ddeddfau’n cyfyngu mynediad i gŵn).
Nid oes gan Natural England na Cyfoeth Naturiol Cymru rôl orfodi ac ni chaiff yr agwedd hon ei chrybwyll yn y Cod ei hun – cyfrifoldeb rheolwyr y safleoedd yw hyn.
Ni ellir gorfodi’r Cod yn gyfreithiol. Nid yw’r Cod yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anghyfreithlon bwriadol.
Ein man cychwyn yw bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gwneud y peth iawn, a’r mwyaf o wybodaeth ac arweiniad y gallwn eu rhoi, y lleiaf fydd nifer y problemau a fydd yn codi.
Mae’r Cod yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr, ond mae gan bob gwlad ei fersiwn ei hun oherwydd hawliau mynediad gwahanol. Er enghraifft, mae ymyl arfordirol Llwybr Arfordir Lloegr yn cael ei chreu gan ddefnyddio hawliau mynediad agored yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Mae gan y ddwy wlad hefyd ddyddiadau gwahanol ar gyfer tanau dan reolaeth.
Mae gan yr Alban ac Iwerddon eu codau mynediad awyr agored eu hunain gan fod y ddwy wlad yn gweithredu o dan ddeddfwriaeth mynediad wahanol:
Mae logo’r Cod Cefn Gwlad yn nod masnach cofrestredig (UK00003577947 a UK00003577952) a berchnogir ar y cyd gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru. I gael arweiniad ar sut y caiff ei ddefnyddio a chaniatâd i ddefnyddio’r logo, cysylltwch â countryside.code@naturalengland.org.uk
Isod ceir rhestr o rai o’r sefydiadau sy’n gallu eich helpu i gynllunio ar gyfer eich ymweliad â’r awyr agored:
Cyfoeth Naturiol Cymru – coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (Lloegr)
Mae’r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru a Lloegr o dan berchnogaeth breifat. Gallai’r hyn sy’n ymddangos yn gae agored fod yn fan gwaith rhywun, er enghraifft, lle tyfir cnydau. Nod y Cod yw sicrhau bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o’r arwyddion a’r symbolau mynediad a phryd mae angen i chi ofyn caniatâd ar gyfer mynediad a gweithgareddau penodol.
Mewn mannau lle gallai fod cyfyngiadau, bydd arwyddion ar y safle neu ffyrdd eraill o gyfathrebu fel arfer yn hysbysu’r cyhoedd o unrhyw gyfyngiadau o ran mynediad. Er enghraifft, gwefannau sy’n dangos cyfyngiadau statudol ar dir mynediad agored – Natural England – mapiau Mynediad Agored; Map CNC o leoedd i ymweld â nhw
Mae’r cod wedi cael ei gyfieithu i 18 iaith:
Arabeg, Bengaleg, Tsieinëeg, Cernyweg, Ffrangeg, Almaeneg, Gwjarati, Hindi, Eidaleg, Pwyleg, Portiwgaleg, Pwnjabeg, Rwsieg, Sbaeneg, Tamileg, Twrceg, Wrdw.
Byddwn yn archwilio ym mha ieithoedd a fformatau eraill y gellid cyhoeddi’r Cod.
Mae Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi diweddaru’r Cyngor i Reolwyr Tir o fewn y Cod Cefn Gwlad, yn dilyn diweddariadau i’r Cod cyhoeddus ym mis Ebrill 2021. Mae’r Cyngor i Reolwyr Tir yn amlinellu, trwy ganllawiau a dolenni, gyfrifoldebau Rheolwyr Tir sydd â mynediad cyhoeddus ar eu tir.
Gwnaed y diweddariad mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Comisiwn Coedwigaeth
Mae’r Cyngor i Reolwyr Tir a’r Cod Cefn Gwlad yn hyrwyddo mynediad cyfrifol ac ymddygiad cadarnhaol gan bawb trwy gyflwyno gwybodaeth berthnasol, glir a hygyrch.
Oes. Etifeddodd Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru y ddyletswydd statudol i gynhyrchu ‘cod ymddygiad’ i’r cyhoedd o Ddeddf 1949. Ehangwyd hyn wedyn i gynnwys rheolwyr tir o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, a oedd yn nodi y dylai’r cyhoedd ac unigolion sydd â buddiant mewn tir mynediad gael gwybod am eu priod hawliau a goblygiadau.
Yn Lloegr, ehangodd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 y ddyletswydd hon i gynnwys y trefniadau Mynediad Arfordirol arweiniodd at greu Llwybr Arfordir Lloegr.
Dim ond cyngor yw’r canllawiau – dydyn nhw ddim yn orfodol, oni bai am lle maen nhw’n disgrifio gofynion cyfreithiol penodol. Fel cyrff cyhoeddus, mae Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnig cyngor i’r cyhoedd a rheolwyr tir ar ystod eang o faterion mynediad a sut i’w rheoli. Mae’r ddau sefydliad hefyd yn darparu mwy o gyngor penodol yn ymwneud â’n dyletswyddau statudol o ran mynediad i’r cyhoedd.
Yn 2021, gyda chymorth gan randdeiliaid allweddol, cytunwyd i wahanu cyngor i’r cyhoedd oddi wrth y Cyngor i Reolwyr Tir – roedden nhw’n ffurfio un Cod unigol yn flaenorol. Cyhoeddon ni’r fersiwn diwygiedig ym mis Ebrill 2021 ac rydym bellach wedi cyhoeddi’r Cyngor i Reolwyr Tir ar wahân. Rydym wedi osgoi ailysgrifennu canllaw sydd eisoes ar gael, felly mae’r ddogfen yn darparu cyflwyniad i bynciau ac yna’n cyfeirio pobl at fanylion pellach.
Mae’r Cyngor i Reolwyr Tir yn cynnig canllawiau ymarferol ar sut i wneud cyfleoedd mynediad yn fwy hygyrch i’r rheini sydd â galluoedd ac anghenion gwahanol, arwyddion cliriach i ymwelwyr â chefn gwlad, a sut i adrodd am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, poeni da byw a throseddau eraill yn gywir i awdurdod lleol. Bydd rheolwyr tir yn gallu cymryd negeseuon o’r cyngor er mwyn helpu i ffurfio eu dulliau cyfathrebu penodol eu hunain.
Na. Mae’r cyngor hwn yn gymysgedd o arweiniad a modd o atgoffa Rheolwyr Tir am eu cyfrifoldebau cyfreithiol.
Mae’r Cod, y cytunwyd arno â’n rhanddeiliaid allweddol, yn nodi’n glir iawn “Parchwch bawb – byddwch yn ystyriol o’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau.” Byddwn yn cynhyrchu deunydd pellach i ategu ymddygiad cadarnhaol (ar y cyfryngau cymdeithasol er enghraifft). Mae’n bwysig bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd, a bwriad y Cod yw arwain pobl ar sut i wneud hynny. Bydd cynnal ymgyrchoedd yn caniatáu i ni fod yn hyblyg wrth ddefnyddio negeseuon y Cod a phan fyddwn yn dod at gyfnodau pan allai pryderon godi ymysg rhai aelodau o’r cyhoedd fel tân gwyllt gallwn gyhoeddi negeseuon wedi’u targedu, e.e. datganiadau ar gyfryngau cymdeithasol i helpu pobl i ddeall yr effaith y gallai eu gweithgareddau eu cael.
Mae’n iawn rhoi baw ci mewn bag mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus, ond ddim mewn biniau ailgylchu. Gall perchnogion cŵn hefyd roi baw cŵn mewn bag yn eu bin gwastraff cartref, ond nid mewn biniau bwyd/compost.
Nid yw’r Cod Cefn Gwlad yn sôn am fflicio â ffon am sawl rheswm:
Mae’n rhaid i’r Cod adlewyrchu cyfreithiau presennol a dyna pam y defnyddir y geiriad “Mae’n arfer da cadw eich ci ar dennyn o gwmpas da byw ble bynnag yr ydych.” Os bydd unrhyw newid i’r gyfraith yn ymwneud â chŵn ar dennyn yn y dyfodol, caiff y Cod ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn.
Gyda chynulleidfaoedd newydd, a chynnydd diweddar mewn rhai gweithgareddau awyr agored fel beicio a nofio, mae Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau sicrhau bod unigolion, grwpiau newydd a chlybiau’n ymwybodol o’r Cod.
Mae gan y cyhoedd hawl i nofio yn y môr a does dim angen caniatâd perchennog y tir arnoch i wneud, ond dylech gadw llygad am arwyddion lleol fel arweiniad.
Does dim hawl gan y cyhoedd i nofio mewn dŵr croyw ym mhob man. Mae’r Cod yn gofyn i bobl wirio a oes angen caniatâd perchennog y tir arnyn nhw ac i wirio safon y dŵr a materion diogelwch cyn nofio.
Dechreuwyd ymgyrch fawr i newid ymddygiad drwy’r Cod Cefn Gwlad gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol. Bwriad yr ymgyrch yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r Cod a helpu pawb i deimlo’n ddiogel a chyfforddus wrth fwynhau’r awyr agored. Ein bwriad yw cyrraedd ein cynulleidfa darged drwy’r cyfryngau y maent yn eu defnyddio ac mae cyfryngau cymdeithasol – gan gynnwys cyfryngau cymdeithas y telir amdanynt – yn un o’n dulliau o gyrraedd y rheini sydd angen clywed y negeseuon.
Rydym yn gwybod o ddata ac ystadegau’r Arolwg Pobl a Natur fod anghyfartaledd yn bodoli o ran cael mynediad i fannau gwyrdd a naturiol rhwng gwahanol grwpiau ethnig a grwpiau oedran, a gaiff ei achosi gan ffactorau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol. Mae hyrwyddo’r Cod Cefn Gwlad wedi bod yn hanfodol wrth gyrraedd y cynulleidfaoedd targed hyn, gyda’r nod o wella iechyd corfforol a meddyliol aelodau’r cyhoedd.
Byddwn yn archwilio gyda chydweithwyr ar draws adrannau addysg y ffordd fwyaf hwylus i ddefnyddio’r Cod yng nghwricwlwm yr ysgolion. Yn y cyfamser, byddem yn croesawu unrhyw gymorth wrth hyrwyddo’r Cod o fewn ysgolion a grwpiau ieuenctid er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc.
Byddwn yn archwilio gyda chydweithwyr ar draws adrannau addysg y ffordd fwyaf hwylus o ddefnyddio’r Cod a’r negeseuon ynddo, yng nghwricwlwm yr ysgolion. Yn y cyfamser, byddem yn croesawu unrhyw gefnogaeth wrth hyrwyddo’r Cod o fewn negeseuon ysgolion ac unrhyw ddulliau eraill o’i ymgorffori o fewn dysgu yn y dosbarth er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach o’r cod ymysg disgyblion.
Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb yma cysylltwch â Thîm y Cod Cefn Gwlad yn CNC.