Llwybr Arfordir Sir Benfro
Dilynwch yr arfordir mwyaf syfrdanol ym Mhrydain heibio i glogwyni geirwon, cildraethau cysgodol a thraethau godidog.
Dewch o hyd i ffeithiau defnyddiol a dysgwch fwy am Lwybr Arfordir Sir Benfro isod.
Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n troi a throelli am 186 milltir (299km) ar hyd yr arfordir mwyaf syfrdanol ym Mhrydain. Mae’n cynnwys bron bob math o dirwedd forol o glogwyni geirwon a childraethau cysgodol i draethau godidog ac aberoedd troellog.
Mae’r llwybr, sydd bron yn llwyr o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – unig wir Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain – yn cynnig gwledd o flodau ac adar arfordirol, yn ogystal â thystiolaeth o weithgaredd dyn o’r cyfnod Neolithig hyd y dydd hwn.
Yn ei gyfanrwydd, mae Llwybr yr Arfordir yn her gorfforol sylweddol – honnir bod y 35,000 troedfedd o esgyn a disgyn yn gyfystyr â dringo Everest – ond gellir ei fwynhau mewn darnau byrrach, sy’n hygyrch i bobl o bob oedran a gallu, gyda’r pentrefi bach arfordirol yn eich croesawu a’ch denu i fwynhau ymhellach.

Mae’r Llwybr Cenedlaethol wedi’i arwyddio’n dda iawn felly mae’n hawdd dilyn y ffordd. Ond mae’n syniad da i fynd â theithlyfr neu fap gyda chi.
Mae gan Lwybr Arfordir Sir Benfro rywbeth i’w gynnig drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n well gan lawer gerdded pan na fydd hi mor boeth, yn y gwanwyn neu’r hydref, a hyd yn oed ar ddiwrnodau iachusol yn y gaeaf. Mae’r adeg orau’n dibynnu arnoch chi i raddau helaeth, ar eich diddordebau ac a yw’n well gennych chi’r tymor gwyliau prysur, neu fisoedd tawelach y gwanwyn, hydref a gaeaf. Gall fod yn anodd dod o hyd i lety yn yr haf, yn enwedig am un noson yn unig, felly rydym yn argymell eich bod yn archebu mewn da bryd.
Y gwanwyn yw’r adeg orau i weld adar yn mudo a pharu, a blodau gwyllt. Mae’r hydref hefyd yn dda ar gyfer adar sy’n mudo, a lloi morloi.
Llwybr Arfordir Sir Benfro oedd y Llwybr Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru – fe’i agorwyd yn 1970.
Yn ogystal â chynnig golygfeydd a bywyd gwyllt arfordirol eithriadol i gerddwyr, mae’r Llwybr yn pasio drwy dirwedd sy’n gyforiog o hanes dynol a hanes morwrol. Drwy gerdded ar y Llwybr, fe welwch chi gromlechi Neolithig, caerau pentir o’r Oes Haearn, eglwysi a chapeli’r seintiau morwrol Celtaidd cynnar a’u dilynwyr, cysylltiadau â’r Llychlynwyr drwy gyfrwng enwau lleoedd fel Wdig ac ynysoedd Sgomer a Sgogwm, cestyll Normanaidd enfawr fel y rhai ym Mhenfro, Dinbych-y-pysgod a Maenorbŷr a chaerau Oes Napoleon diweddarach ar hyd arfordir y de a dyfrffordd Aberdaugleddau.
Ar hyd y Llwybr, mae porthladdoedd bychain, odynau calch a warysau, a safleoedd fel gwaith brics Porthgain yn ein hatgoffa o draddodiad diwydiannol yr ardal. Mae dyfrffordd Aberdaugleddau, y gwnaeth ei harbwr naturiol y fath argraff ar Nelson, yn parhau i fod yn ganolfan ddiwydiannol.
Ond yn y mannau tawelach, diarffordd, gwyllt, a boblogir yn bennaf gan adar ac ambell i forlo, mae’r hen ‘hud ar Ddyfed’ yn dal i’w deimlo – Gwlad Hud a Lledrith go iawn.
Byddwch yn cael eich ailgyfeirio i’n partner archebu lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y deithlen y mae gennych ddiddordeb ynddi a gwneud ymholiad neu archeb.
Mae ein partneriaid archebu yn gweithredu yn y DU ac felly bydd eu gwefannau yn Saesneg; fodd bynnag, mae’n bosibl y byddant yn gallu siarad â chi mewn iaith arall, os bydd ei hangen arnoch. Holwch nhw’n uniongyrchol am hyn.
O’r pwynt hwn yn eich ymholiad, cyfrifoldeb ein partner archebu fydd gofalu am, a defnyddio’n iawn, unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch chi’n ei rhoi iddyn nhw.
Gobeithio bod y wefan hon wedi eich helpu i ddod â chi’n nes at y Llwybrau Cenedlaethol. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy fynd i’n tudalen Facebook.

Dewch i grwydro harddwch naturiol syfrdanol yr arfordir a darganfod cestyll, beddrodau Neolithig, caerau o’r Oes Haearn, eglwysi Celtaidd a phorthladdoedd cysgodol perffaith.
Wedi'ch ysbrydoli? Gallwch greu teithlen bersonol a dechrau cynllunio'ch ymweliad yma.