Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod
Cyfrifiannell pellter
Hidlwyr Map
Customise your trip with our filters.
Hidlwyr Map
Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.
Cyffredinol Marchogaeth BeicioLlety
Pwyntiau o ddiddordeb
Gwasanaethau
Llwybrau
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter i dynnu llinell.
Cyfres o lynnoedd wedi’u creu gan ddyn yw Llynnoedd Bosherston (neu’r Pyllau Lili, fel y’u gelwir yn aml), ynghanol Ystâd Stagbwll, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Maen nhw’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Stagbwll, ac yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig hefyd.
Mae'r llynnoedd wedi’u lleoli mewn system o ddyffrynnoedd coediog sy’n ymestyn i mewn o’r arfordir ger traeth De Aberllydan, gan dorri drwy lwyfandir carreg calch. O ddiwedd Oes yr Iâ ddiwethaf hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, roedd y dyffrynnoedd hyn yn cynnwys nentydd a darddai o ffynhonnau, gyda chors a choetir gwlyb ar eu hymylon, ac yn llifo i gilfach lanwol â morfa a thwyni o’i chwmpas. Crëwyd y llynnoedd gan deulu Campell o Gawdor, oedd yn berchen ar yr ystâd rhwng 1689 ac 1976, drwy adeiladu cyfres o argaeau rhwng 1760 ac 1840.
Wedi’u creu fel nodwedd yn y dirwedd, mae’r llynnoedd bellach yn cynnal nodweddion cadwraethol sy’n bwysig ar lefel Ewropeaidd, gyda phoblogaethau o anifeiliaid prin gan gynnwys dyfrgwn, planhigion fel dyfrllys cyrliog, lili’r dŵr gwyn a rhawn yr ebol, a thrychfilod sy’n cynnwys 20 rhywogaeth o was y neidr.
Er mwyn ymweld â’r llynnoedd, gallwch barcio'n agos atynt mewn meysydd parcio ym mhentref Bosherston, safle Llys Stagbwll, a De Aberllydan.
Mae’r planhigion lili dŵr ar eu gorau rhwng diwedd Mai ac Awst. Gellir gweld dyfrgwn drwy gydol y flwyddyn, er mai yn gynnar yn y bore yw’r adeg orau i’w gweld.
Mae rhagor o wybodaeth i'w gael ar www.nationaltrust.org.uk/stackpole