Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod
Cyfrifiannell pellter
Hidlwyr Map
Customise your trip with our filters.
Hidlwyr Map
Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.
Cyffredinol Marchogaeth BeicioLlety
Pwyntiau o ddiddordeb
Gwasanaethau
Llwybrau
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter i dynnu llinell.
Gwarchodfa natur Glaslyn yw’r fwyaf o fewn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, ac mae’n rhan ganolog o fynyddoedd y Cambria. Mae ehangder mawr y gweundir grug, â'i ardaloedd corsiog, yn amgylchynu llyn agored ar yr ucheldir. Gellir mwynhau golygfeydd ysblennydd o'r olygfan.
Gall Glaslyn fod yn rhyfeddol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond peidiwch â cholli cyfle i ymweld ym mis Gorffennaf/Awst, pan fydd y grug llawn blodau’n troi’r warchodfa’n borffor. Cadwch lygad hefyd am un o hynodion y llyn, sef y gwair merllyn, sy'n aml yn cael ei olchi i’r lan ar ôl tywydd garw.
Beth am wneud diwrnod ohoni a dilyn llwybr sain Glaslyn a Bugeilyn?
Mae’r warchodfa ar y ffordd fechan rhwng y B4518 ger Penffordd-las a'r A489 ym Machynlleth.