Mae teulu’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys cyngor ychwanegol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yng Nghymru.
Darllenwch godau’r gweithgareddau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
Gellir rhoi fideos byr CNC o Youtube ar wefannau neu gallwch roi dolenni atynt ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo elfennau o’r Cod.
Gall athrawon ac addysgwyr helpu dysgwyr i ddeall effaith sbwriel ar yr amgylchedd gydag adnoddau CNC ar sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff.
Mae gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru gyfres wych o ffeithuniau ar y Cod Cefn Gwlad y gallwch eu defnyddio am ddim. Ewch i’w gwefan i ddysgu sut maen nhw wedi cyfrannu at adnewyddu’r Cod Cefn Gwlad, i ddysgu mwy am eu gwaith ac i edrych ar eu hadnoddau cyfryngau cymdeithasol.
Ewch i wefan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru.
Lawrlwythwch bosteri dwyieithog sy’n crynhoi’r Cod ac yn egluro ystyr symbolau’r llwybrau:
Mae Natural England, Macmillan Children’s Books a’r Sefydliad Rheoli Morol yn cynnig ysbrydoliaeth i gael hwyl a sbri ar yr arfordir gyda llyfryn gweithgareddau ar gyfer plant 4-8 oed, a ysbrydolwyd gan y stori sy’n ffefryn gan deuluoedd, The Snail and the Whale.
Mae’r llyfryn hwn, y gallwch ei gael am ddim, yn cynnwys gweithgareddau, posau a ffeithiau diddorol – popeth rydych chi ei angen i fwynhau diwrnod allan yn crwydro’r arfordir.
This free booklet contains activities, puzzles and fun facts – everything you need to enjoy a day out exploring the coast.
Ewch i dudalen The Snail and the Whale i ddysgu mwy ac i lawrlwytho’r llyfryn.
Gwyliwch y fideo arbennig yma i gael cyngor defnyddiol gan ddisgyblion Ysgol Grasmere.
Cydnabyddiaeth: Ysgol Grasmere @grasmereschool