Pa drysorau sydd ar eu gorau yr haf hwn ar Lwybr Glyndŵr?

Haf 2024

Wrth i ni ffarwelio’n araf bach â blodau hardd a hir ddisgwyliedig y gwanwyn, mae’r tymhorau’n newid yn raddol a’r un pryd mae pennod newydd yn dechrau blodeuo ar draws Llwybrau Cenedlaethol Cymru. Yma, mae Swyddog Llwybrau Llwybr Glyndŵr yn cynnig cipolwg ar yr hyn y gall cerddwyr ddisgwyl ei fwynhau ar hyd y llwybr dros y haf.

Mae Llwybr Glyndŵr yn Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217 Km) o hyd sy’n ymdroelli drwy weundir agored, ffermdir tonnog, coetir a choedwigoedd y Canolbarth. Cafodd y llwybr, sy’n cychwyn yn Nhrefyclo ac yn gorffen yn y Trallwng, ei enwi ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru ac arweinydd cenedlaetholgar Cymru yn yr Oesoedd Canol a drefnodd wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV yn 1400.

Mae fy nghyfrifoldebau cyffredinol yn cynnwys rheoli, arolygu a threfnu gwelliannau i Lwybr Glyndŵr, ac mae’r rôl hon yn golygu fy mod i bellach yn adnabod y llwybr fel cefn fy llaw. O’r herwydd gallaf gynnig rhywfaint o wybodaeth am y pethau gorau sydd i’w gweld bob tymor i’r rhai ohonoch sy’n cychwyn allan i gerdded yno, boed law neu hindda, a thrwy’r tymhorau.

Ac er bod gan bob tymor ei rinweddau arbennig, does dim dadl mai yn yr haf y bydd natur yn rhoi’r sioe orau i bawb, ac ar hyd Llwybr Glyndŵr byddwch yn gweld un o’r llwybrau cerdded gwledig mwyaf prydferth yn unrhyw le yn y byd.

Felly am beth y dylai naturiaethwyr fod yn chwilio?

Wrth i chi gerdded y llwybr, edrychwch o’ch cwmpas a byddwch yn gweld lleiniau glas yn arddangos toreth o liwiau amrywiaeth eang o flodau gwyllt. Mae serenllys, pabi Cymreig, blodyn neidr, gorthryfail, briallu a gwlyddyn melyn Mair i gyd yn cystadlu am le pan fydd yr haul yn tywynnu.

Un o’r trysorau llai amlwg ac sy’n cael ei anghofio ar Lwybr Glyndŵr yw’r rhedyn sy’n ymddangos yma ac acw fwy neu lai ym mhobman. Mae rhedyn yn doreithiog ar y llechweddau, ond chwiliwch am y mathau llai cyffredin, fel pennau cyrliog y rhedyn gwrywaidd, y gwibredyn a thafod yr hydd yn y coetiroedd, sef y cliwiau cyntaf o’r rhwysg dramatig i ddod pan fyddant yn aeddfedu.

Mae hen furiau ac adeiladau yn lleoedd ardderchog i chwilio am redyn a blodau gwyllt. Mae duegredynen gwallt y forwyn yn rhedynen fechan sy’n gallu gorchuddio wal gyfan ac fe’i gwelir yn aml yn tyfu ochr yn ochr â thrwyn-y-llo dail eiddew a’i flodau porffor mân. Ac wrth sôn am ddod o hyd i drysorau mewn hen waliau, gofalwch stopio yng Nghastell Powis yn y Trallwng. Mae gerddi’r castell 300 oed, o’r radd flaenaf, yn llawn hanes, a’u blodau’n arddangosfa ddisglair o liwiau bob haf.

Yn y llu o fannau dyfrllyd ar hyd y llwybr, mae gold y gors a chrafanc-frân y dŵr yn blodeuo. Ar y gweundir, chwiliwch am dresgl y moch a’r amlaethai sy’n cuddio’n y grug.

Yng Nglaslyn, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae’r golygfeydd yn syfrdanol drwy’r flwyddyn, ond yn arbennig felly o fis Mehefin i fis Awst, pan fydd y warchodfa’n troi’n wyn gyda phlu’r gweunydd, ac yna’n borffor wrth i’r grug flodeuo. Mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi ar nodwedd arbennig y llyn, sef gwair merllyn, sy’n golchi ar ei lannau ar ôl tywydd glawog – sydd fel arfer yn digwydd ble bynnag y byddwch yng Nghymru, hyd yn oed yn ystod misoedd sychaf yr haf!

Y peth olaf i gofio chwilio amdano yw gardd ar bolyn ffens. Ar yr olwg gyntaf gallai hyn ymddangos fel postyn syml, ond mae’n gymaint mwy na hynny os edrychwch yn nes – mae’n gynefin ardderchog i fflora a ffawna micro! Mae rhai o’r hen glwydi a’r arwyddbyst ar Lwybr Glyndŵr wedi darparu amodau tyfu perffaith ar gyfer gerddi bychan bach o gennau, mwsoglau, rhedyn a hyd yn oed coed. Felly, pan fyddwch chi’n mynd trwy giât, gofalwch gael golwg ar ben y pyst i weld beth sy’n ymgartrefu yno.

Fencepost gardens on Glyndwr's Way
Fencepost gardens on Glyndwr’s Way