O’r Gelli Gandryll i Drefyclo
Mae golygfeydd gwych a threfi marchnad diddorol yn eich aros ar y daith 2 ddiwrnod hwn. Mae eich antur yn cychwyn yng Nghymru; mae’r Gelli Gandryll yn dref hardd sy’n enwog am ei llu o siopau llyfrau a daw i ben yn Nrefyclo’n sy’n dref llawn hanes gyda’i thai hanner pren o’r 17eg ganrif a’i strydoedd troellog cul. Rhwng y ddwy dref, byddwch yn teithio ar hyd y bryniau tonnog ger y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd, ac yn dringo cribau uchel sy’n rhoi golygfeydd panoramig anhygoel o’r ardal gyfagos.
Trosolwg o'r Daith
Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.
Pellter
28.25 milltir / 45.5 Km
Nifer o ddiwrnodau
2
Graddfa
Heriol
Thema
Bwyd a Diod
Math o dirwedd
Cefn Gwlad Tonnog a Bryniau Uchel
O’r Gelli Gandryll i Drefyclo
Dyma bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gynllunio eich antur gerdded eich hun. Cliciwch ar y tabiau saeth glas isod am fwy o wybodaeth.
- Teithlen
- Llety
- Cyngor
- Bwyd a diod
- Mapiau, Teithlyfrau a Nwyddau
- Teithio
Teithlen
Mae angen lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y darn hwn o Lwybr Clawdd Offa. Disgwyliwch lwybrau da gyda pheth dringo a disgyn serth, golygfeydd gwych a threfi a phentrefi diddorol.
Diwrnod 1 - Y Gelli Gandryll i Geintun
Mae’r daith gerdded hon yn cychwyn yn Y Gelli Gandryll, wrth ochr afon Gwy, cyn mynd trwy wlad fryniog y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd. Mae’r ardal hon yn enwog trwy ddyddiaduron y ciwrad o Oes Fictoria, Francis Kilvert, a ysgrifennodd am fywyd yn y plwyfi gwledig. Mae’r Llwybr yn mynd trwy bentref bach Yr Eglwys Newydd ar y Cefn – mae’r eglwys yma bob amser ar agor ac yn croesawu cerddwyr. Gallwch hefyd helpu eich hun i gwpanaid o de yn gyfnewid am rodd fechan. Mae’r Royal Oak yn Llanfair Llythynwg yn croesawu cerddwyr ac mae’n werth cael seibiant yno cyn y daith olaf i Geintun. Yn ddiweddglo i’r rhan hon o’r Llwybr, mae’n codi i uchder o fwy na 400 metr ar Gefn Hergest gyda golygfeydd dramatig i bob cyfeiriad. Ar ddiwrnod clir, gellir gweld Pen y Fan i’r de, Bryniau Malvern i’r dwyrain, a bryniau Swydd Amwythig i’r gogledd. Ar ben Cefn Hergest mae hen gae rasio, sy’n filltir union o’i gwmpas. Yma, ym Mhlas Hergest, y cadwyd y Llyfr Coch enwog, sef casgliad mawr o chwedlau (gan gynnwys y Mabinogi), barddoniaeth, diarhebion, a gwybodaeth arall a grynhowyd gan Hopcyn ap Tomos o Ynysforgan tua’r flwyddyn 1400. Yr ardal hon, hefyd, a ysbrydolodd ‘Hound of the Baskervilles’ Arthur Conan Doyle ac ail albwm Mike Oldfield ‘Hergest Ridge’. Daw’r diwrnod i ben yn nhref farchnad Ceintun ar y gororau, tref sy’n bwysig iawn i’r diwydiant da byw gan ei bod ar lwybr y porthmyn.
14.75 milltir (23.3 Km)
Diwrnod 2 - Ceintun i Drefyclo
Yn ogystal â’r golygfeydd godidog o’r bryniau anghysbell, mae’r rhan hon yn nodedig am y darnau hir o’r Clawdd sydd mewn cyflwr da, cyn i’r Llwybr gyrraedd ei ‘gartref ysbrydol’ sef Trefyclo
Wrth adael Ceintun, mae’r Llwybr yn mynd dros fryn Bradnor a’i gwrs golff, yr uchaf yn Lloegr. Yn fuan wedyn, ar fryn Rushock, mae’r Llwybr yn cwrdd â Chlawdd Offa unwaith eto, am y tro cyntaf ers ei adael 56 milltir yn ôl yn Lower Redbrook yn Nyffryn Gwy. O’r fan hon hyd Gastell y Waun, mae’r Llwybr yn dilyn Clawdd Offa am y rhan fwyaf o’r daith. Yn fuan wedyn, mae’r Llwybr yn croesi’r ffin unwaith eto o Swydd Henffordd i Bowys, y sir lle ceir y darn hwyaf o’r llwybr.
Ar y ffordd i Drefyclo, mae’r Llwybr yn mynd trwy Granner Wood, sy’n eiddo i Goed Cadw ac sydd, trwy ei reoli’n ofalus, yn cael ei adfer yn goetir llydanddail. Mae’r Llwybr yn disgyn yn fuan wedyn at droadau niferus Afon Llugwy ger Dolley Old Bridge. Mae’n werth aros ar y bont i wylio’r trochwyr a chael cipolwg o las y dorlan, os fyddwch chi’n lwcus. Byddwch yn dringo wedyn i fryniau Furrow a Hawthorn. O’r fan hon, ceir golygfeydd godidog tua’r gorllewin i Sir Faesyfed. Gellir gweld safle un o frwydrau enwog Owain Glyndŵr oddi yma hefyd, lle ymladdodd yn erbyn y Saeson ym mrwydr Bryn Glas, gyda’r clwstwr sgwâr o goed yn nodi man claddu’r milwyr. Daw’r ddisgynfa olaf â chi i Drefyclo, sydd bron hanner ffordd ar eich taith ac yma mae Canolfan Clawdd Offa.
13.5 milltir (21.7 Km)
Llety
Mae llety’n weddol brin ar hyd Llwybr Clawdd Offa, felly mae’n hanfodol cynllunio ac archebu ymlaen llaw. Mae modd gweld llety yn Y Gelli Gandryll, Ceintun a Threfyclo ar y map taith.
Mae rhai darnau serth ar hyd y llwybr hwn felly dylech ystyried defnyddio cwmni trosglwyddo bagiau i gludo’ch bagiau.
Cyngor
Gall darnau o’r daith hon ar hyd Llwybr Clawdd Offa fod yn anodd gan fod cryn dipyn o ddringo a disgyn. Mae angen lefel dda o ffitrwydd felly.
Rydym yn eich cynghori i ddewis esgidiau a dillad sy’n addas ar gyfer yr amodau hyn ac ar gyfer rhagolygon y tywydd.
Bwyd a diod
Mae siopau, caffis a bwytai yn Y Gelli Gandryll, Ceintun a Threfyclo, ond mae rhannau o’r llwybr hwn yn eithaf diarffordd. Efallai na fydd yn hawdd dod o hyd i fwyd neu lefydd bwyta ar hyd y ffordd. Gofalwch eich bod yn cynllunio’ch bwyd a’ch diod o flaen llaw a’ch bod yn cario digon o gyflenwadau am y diwrnod.
Mapiau, Teithlyfrau a Nwyddau
Mae’r teithlyfr swyddogol a’r map ar gyfer y Llwybr ar gael o Siop y Llwybrau Cenedlaethol ynghyd ag ystod eang o roddion a nwyddau eraill.
Teithio
Maes Awyr Birmingham yw’r maes awyr agosaf os ydych chi’n hedfan, ac mae’n cysylltu â gorsaf reilffordd Birmingham International. Mae opsiynau eraill yn cynnwys Manceinion, Caerdydd, Lerpwl neu unrhyw un o feysydd awyr Llundain, gan fod bysiau gwennol cyflym yn mynd o’r meysydd awyr i mewn i Lundain.
Mae’r orsaf drenau agosaf i’r Gelli Gandryll ar gyfer y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig 22 milltir i’r dwyrain yn Henffordd. I deithwyr sy’n dod o Gymru, mae gorsafoedd cyfagos yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Mae yna drenau’n teithio o Drefyclo i Crewe, Amwythig ac Abertawe. Ceir cysylltiadau da â rhannau eraill o’r DU o’r mannau hyn.
Map o'r Deithlen
Gallwch weld gwybodaeth ar y map trwy dicio'r blychau yn yr Hidlydd Map. Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.
Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod
Cyfrifiannell pellter
Hidlwyr Map
Customise your trip with our filters.
Hidlwyr Map
Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.
Cyffredinol Marchogaeth BeicioLlety
Pwyntiau o ddiddordeb
Gwasanaethau
Llwybrau
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter i dynnu llinell.
Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…