Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod
Cyfrifiannell pellter
Hidlwyr Map
Customise your trip with our filters.
Hidlwyr Map
Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.
Cyffredinol Marchogaeth BeicioLlety
Pwyntiau o ddiddordeb
Gwasanaethau
Llwybrau
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Llety
Pwyntiau o ddiddordeb
Trafnidiaeth
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.
Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter i dynnu llinell.
Mae Cristnogaeth Geltaidd gynnar yn amlwg iawn ar hyd y darn hwn o’r arfordir; cadwch olwg am Gapel a Ffynnon Iwstinian ym Mhorthstinian, sydd hefyd yn gartref i Orsaf y Bad Achub. Yn y gorffennol, harbwr Porth Clais, ger aber Afon Alun, fyddai’r man y byddai nwyddau’n cyrraedd ar gyfer yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi. Mae’r clogwyni a’r slabiau i’r dwyrain o geg yr harbwr yn fan poblogaidd ar gyfer dringo. Mae toiledau yn y maes parcio, a chiosg sy’n gwerthu hufen iâ neu ddarn o gacen yn yr haf.
Mae’r clogwyni o gwmpas Porthstinian yn cael eu cysgodi rhag dannedd y gwynt gan Ynys Dewi, felly, yn ogystal â gweld cyfoeth o flodau gwyllt yn ystod y gwanwyn a’r haf (clustog Fair, sêr y gwanwyn, teim, crafanc y frân, gludlys) gallwch ddisgwyl gweld y ddraenen ddu a llwyni gwyrosydd yn gafael yn sownd wrth y graig. Rhostir morol a glaswelltir yw’r rhan fwyaf o’r tir agored ar ben y clogwyni. Mae morloi llwyd yn magu ar y traethau islaw o ddiwedd mis Awst, er mai ar Ynys Dewi mae’r fridfa fwyaf yn y Parc. Y rheswm bod llif y llanw yn Swnt Dewi a’r Bitches, fel y gelwir yr ardal o ddŵr garw, mor frochus yw bod dyfroedd Môr Iwerddon a Sianel San Siôr yn cyfarfod yma, sydd o fantais i adar y môr a’r llamhidyddion, am ei fod yn achosi i’r pysgod ddod i’r wyneb, sy’n gwneud eu gwaith hela’n hawdd pan fo’r llanw’n gryf. Yn y rhannau corsiog o gwmpas Pwll Trefeiddan chwiliwch am weision y neidr o rywogaethau’r ymerawdwr, y blewog, a’r eurdorchog, a mursennod bach coch a glas Penfro. Mae'r gwalch glas, y bwncath a’r cudyll coch yn magu ymhlith y prysgwydd helyg, ac mae hwyaid gwylltion, chwiwellod a chorhwyaid yn byw ar y pwll dŵr.
Croesewir cŵn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cadw ar dennyn am fod da byw’n pori. Mae perygl hefyd y gallai pobl gael eu bwrw dros y clogwyn, neu gamu oddi arno’n ddamweiniol er mwyn dianc rhag eich ci – nid pawb sy’n hoff o gŵn.