Dewiswch eich llwybr… a chrwydrwch fel y dymunwch
Mae pob un o’r Llwybrau Cenedlaethol yn daith ddarganfod lle byddwch yn dod i gysylltiad â byd natur, yn cwrdd â’r bobl leol, a chael gwir flas o Gymru a Lloegr, un cam ar y tro.
Cyflwyniad i’r Llwybrau
Mae’r Llwybrau Cenedlaethol yn deithiau cerdded pellter hir drwy rai o dirweddau gorau’r DU. Gellir mynd ar rai ohonyn nhw ar gefn beic mynydd neu geffyl hefyd. Maen nhw’n arbennig – maen nhw wedi cael eu dynodi gan y Llywodraeth ac yn cael eu rheoli i set o Safonau Ansawdd sy’n eu gosod uwchlaw llwybrau eraill. Mae’r llwybrau wedi’u harwyddo’n dda gyda’r symbol mesen unigryw. Mae swyddog penodedig yn gofalu am bob llwybr, yn aml gyda thimau o wirfoddolwyr.
Mae’r Llwybrau Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau, o lwybr dramatig Arfordir y De-orllewin i lwybr godidog Arfordir Norfolk gyda’i awyr eang a’i fywyd gwyllt anhygoel. Gallwch gerdded yn ôl troed y Rhufeiniaid ar Lwybr Mur Hadrian, neu yn ôl troed y pererinion ar Ffordd y North Downs. Os oes awydd mwy o her arnoch chi, mae Ffordd Pennine yn addas ar eich cyfer gyda’i golygfeydd sy’n newid yn barhaus, neu efallai Ffordd Cleveland sy’n cynnig y cerdded gorau ar rostir grug ac arfordir creigiog.
Os ydych chi’n chwilio am lonyddwch mewn darn prydferth o gefn gwlad, gallech roi tro ar Lwybr Glyndŵr a gafodd ei greu i ddathlu’r rebel Cymreig, y Tywysog Owain Glyndŵr, neu Ffordd yr Yorkshire Wolds gyda’i thirwedd sialc sydd wedi ysbrydoli cynifer o artistiaid, gan gynnwys David Hockney. Gallech gerdded y ffin rhwng Cymru a Lloegr a’i chroesi 26 o weithiau ar Lwybr Clawdd Offa, neu archwilio llwybr trawiadol arfordir Sir Benfro. Os nad ydych yn gyfarwydd â cherdded pellter hir, mae Llwybr Tafwys yn ddewis da. Gan ddilyn afon Tafwys o’i tharddiad ym mryniau’r Cotswolds yr holl ffordd i Atalfa Tafwys, mae’r llwybr yn mynd ar i lawr yr holl ffordd (wel, bron iawn). Os mai hanes yw eich diddordeb, gallwch ddilyn ffordd hynaf Prydain ar Lwybr Cenedlaethol Ridgeway.
Os yw’n well gennych grwydro ar gefn beic neu geffyl, Ffordd South Downs neu Lwybr Ceffylau’r Pennine yw’r llwybrau i chi. Mae dilyn lonydd a thraciau, llwybrau pynfeirch a ffyrdd porthmyn, yn mynd â chi ar siwrne drwy olygfeydd gwych.
I’r rhai sy’n chwilio am her go iawn, beth am Lwybr Arfordir Lloegr? Nid yw’r llwybr wedi’i gwblhau eto, ond mae disgwyl iddo fynd yr holl ffordd o gwmpas arfordir Lloegr – gan ei wneud y llwybr arfordirol hiraf yn y byd.
Cefndir y Llwybrau Cenedlaethol
Llwybrau cerdded, beicio a marchogaeth hir yw’r Llwybrau Cenedlaethol sy’n mynd drwy’r tirweddau gorau yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, yr enw sydd ar y llwybrau cyfatebol yw Scotland’s Great Trails.
Mae 15 o Lwybrau Cenedlaethol. Gall cerddwyr fwynhau pob un ohonyn nhw, a gellir wynhau Llwybr Ceffylau Pennine a Ffordd South Downs, yn ogystal â rhannau o’r Llwybrau eraill ar gefn ceffyl neu feic. Gyda’i gilydd, mae gan Gymru a Lloegr tua 2,500 milltir (4,000 km) o Lwybrau Cenedlaethol.
Llwybr Arfordir Lloegr fydd y Llwybr Cenedlaethol mwyaf newydd (a hwyaf) pan fydd wedi’i gwblhau yn 2020. Mae’r rhannau cyntaf ar agor ar hyn o bryd a bydd mwy yn agor dros y misoedd nesaf.
Lawrlwythwch y daflen The Best Trails in England and Wales (pdf) i gael mwy o wybodaeth am y Llwybrau Cenedlaethol.
Am drosolwg o’r Llwybrau, lawrlwythwch ein siart Cymharu Llwybrau.
Sut ddaeth y Llwybrau Cenedlaethol i fod?
Daeth cerdded mewn mannau gwyllt a hardd ym Mhrydain yn fwyfwy poblogaidd yn negawdau cynnar yr Ugeinfed Ganrif. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, arweiniodd yr awydd i gadw rhannau o Brydain yn “arbennig” a’u diogelu rhag datblygiad ôl-ryfel, at sefydlu Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Llwybrau Pellter Hir (sydd bellach yn cael eu galw’n Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr).
Y Llwybr cyntaf oedd Ffordd Pennine, a agorwyd ym 1965.
Sut y gofelir am y Llwybrau Cenedlaethol?
Mae gan bob Llwybr yng Nghymru a Lloegr Bartneriaeth Llwybr sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y llwybr ar lawr gwlad. Fel arfer, mae yna Swyddog neu Reolwr y Llwybr Cenedlaethol sy’n gyfrifol am gadw’r Llwybr i fyny i’r safonau uchel a osodwyd ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol. Mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud gan yr awdurdodau priffyrdd lleol ynghyd â thirfeddianwyr gyda help gwirfoddolwyr yn aml.
Darperir cyllid ar gyfer y Llwybrau Cenedlaethol gan y Llywodraeth drwy Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru a hefyd gan awdurdodau priffyrdd lleol a phartneriaid ariannu eraill.
Beth am ymgymryd â’r her o daith gerdded anodd ar hyd asgwrn cefn Lloegr neu grwydro drwy gefn gwlad – penderfynwch chi.