Gwybodaeth am y Llwybr

Dewch o hyd i ffeithiau defnyddiol a dysgwch fwy am Lwybr Glyndŵr isod.

Am y llwybr

Mae Llwybr Glyndŵr yn Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (271 km) o hyd sy’n ymdroelli trwy weundir agored, tir ffermio, coetir a choedwigoedd canolbarth Cymru. Gan ddechrau yn Nhrefyclo a gorffen yn y Trallwng, mae’r llwybr wedi’i enwi ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru ac arweinydd cenedlaetholgar Cymru’r Oesoedd Canol a drefnodd wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV, yn 1400.

Does dim rhaid i chi gerdded y llwybr i gyd ar un tro i fwynhau’r hyn sydd ganddo i’w gynnig. Gallwch ei fwynhau fel cyfres o deithiau cerdded diwrnod.

Gallwch ddod o hyd i nwyddau, mapiau ac arweinlyfrau  Llwybr Glyndŵr yn siop Cymdeithas Clawdd Offa.

Offa's Dyke Association logo

Archwilio’r llwybr

Gall unrhyw un sy’n weddol ffit gerdded Llwybr Glyndŵr, er ei fod yn ddigon bryniog, yn aml yn disgyn i loriau’r cymoedd ac esgyn i gopaon y bryniau sawl gwaith mewn diwrnod. Dylech fod yn ymwybodol ei fod yn croesi tir sydd weithiau’n arw ac anghysbell. Bydd y gallu i ddefnyddio cwmpawd yn fendith os yw’n niwlog.

Gellir mwynhau Llwybr Glyndŵr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Daw’r haf â diwrnodau hir a phoeth (weithiau) ond mae’n well gan rai pobl flodau gwyllt y gwanwyn neu liwiau hardd yr hydref.

Yn y gaeaf, mae canolbarth Cymru dan flanced o eira yn olygfa a hanner. Fodd bynnag, rhaid cadw hinsawdd Cymru, lle mae glaw yn bosibl ar unrhyw adeg, mewn cof, a chofio hefyd fod rhai o’r llefydd aros ar gau dros y gaeaf. Felly mae’n bwysig cario dillad addas. Cofiwch hefyd mai ychydig o olau dydd sydd yn y gaeaf (dim ond tua wyth awr ganol gaeaf).

Mae’r llwybr yn dechrau wrth gloc y dref yn Nhrefyclo ac yn gorffen wrth y gamlas yn y Trallwng. Dyma’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded y llwybr. Gallwch fynd y ffordd arall, ond bydd hynny’n fwy o her.

Beth sy’n arbennig am y llwybr?

Mae Llwybr Glyndŵr yn mynd â chi at rai o nodweddion tirweddol gorau Cymru gan gynnwys bryniau tawel Sir Faesyfed, glannau Cronfa ddŵr Clywedog a Phumlumon â’i garped o rug. Mae golygfeydd arbennig dros Gader Idris, Llyn Efyrnwy, Mynyddoedd Cambria a’r Golfa. Mae’r llwybr yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn Foel Fadian (1530 troedfedd/510m) ac ar ddiwrnod clir mae golygfeydd o ddyffryn mawreddog Dulas hyd at Fachynlleth a’r môr.

Mae’r Llwybr hwn yn eich tywys trwy ardal ffermio go iawn. Un o brif atyniadau’r Llwybr yw’r pleser o gerdded trwy dir gwaith, does dim byd yn artiffisial am y tir hwn.

Introducing the Trail

Find useful facts and learn more about Glyndŵr's Way below.

Gweld y Llwybr

Cliciwch ar y saeth isod i wylio ffilm fer am y Llwybr. Gallwch hefyd wylio fideos eraill am y Llwybr ar YouTube.

Darganfod hanes a chefn gwlad gogoneddus

Cewch gyfle i ymweld â chestyll ac amgueddfeydd ac archwilio llynnoedd a dyfrffyrdd wrth i chi gerdded y llwybr tawel hwn drwy berfeddwlad Cymru.

Creu eich taith eich hun

Wedi'ch ysbrydoli? Gallwch greu teithlen bersonol a dechrau cynllunio'ch ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol hwn yma.