Darganfod hanes camlas weithredol
Cerddwch ran o un o afonydd harddaf a hiraf Prydain. Gyda’i hanes cyfoethog, bywyd gwyllt, llwybrau gwastad a dim camfeydd, mae'n lle perffaith i ddod â'r teulu a'r ci.
Dechreuwch yn y Drenewydd a byddwch yn cyrraedd y Trallwng 14 milltir yn ddiweddarach. Gallwch neidio ar y bws neu fynd ar drên yn ôl i'r Drenewydd neu os ydych chi am her, dilynwch Lwybr Cenedlaethol Llwybr Glyndŵr.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Croeso Cymru.
Mwy o fanylion
Taith gerdded fer i ddathlu ugain mlwyddiant y llwybr: Taith gylchol Dolanog
Codi’n raddol ar Lwybr Glyndŵr dros diroedd comin a dolydd blodau gwyllt. Yna mwynhewch ddychwelyd yn hamddenol ar lan yr afon ar Lwybr Anne Griffiths, a enwyd ar ôl yr emynydd enwog o’r 18fed ganrif a ymgartrefodd yn yr ardal hon.
Pellter: 6 milltir/9.5 km
Mwy o fanylion