Gwybodaeth am y Llwybr

Mae Llwybr Glyndŵr yn ymdroelli trwy 135 milltir (217 Km) o gefn gwlad hardd Cymru ac yn cynnig heddwch a thawelwch wrth i chi archwilio gweundiroedd agored, tir ffermio, coetiroedd a choedwigoedd. Gan ddechrau yn Nhrefyclo a gorffen yn y Trallwng, mae’r llwybr wedi ei enwi ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru ac arweinydd cenedlaetholgar Cymru’r Oesoedd Canol a drefnodd wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV, yn 1400.

Paratoi ar gyfer eich taith

Dewiswch y tabiau saeth glas isod am fwy o fanylion.

Ynglŷn â'r Llwybr

Mae’r llwybr yn 135 milltir (217Km) o hyd. Fel arfer, maen cymryd tua 9 diwrnod i’w gerdded i gyd. 

Gall unrhyw un sy’n weddol ffit gerdded Llwybr Glyndŵr, er ei fod yn ddigon bryniog, yn aml yn disgyn i waelodion cymoedd ac yn esgyn i gopaon y bryniau sawl gwaith mewn diwrnod. Dylech fod yn ymwybodol ei fod yn croesi tir sydd weithiau’n arw ac yn anghysbell. Bydd y gallu i ddefnyddio cwmpawd yn fendith os yw’n niwlog. 

 

Mae un newid llwybr parhaol yn Llanbrynmair.  Dangosir hyn ar y map rhyngweithiol.

Mae un gwyriad achlysurol rhwng Dolwen a Llangadfan.  Mae hyn yn angenrheidiol yn dilyn cyfnod o law trwm yn unig.  Gweler y PDF sydd ynghlwm â’r map rhyngweithiol am fanylion.

 

Mae’r gwaith yn parhau i wneud y llwybrau’n fwy hygyrch i fwy o bobl.

Mae ein tudalen Mynediad i Bawb yn cyflwyno gwybodaeth am gael mynediad at Lwybrau Cenedlaethol, gan gynnwys teithiau cerdded hygyrch a ffynonellau gwybodaeth eraill.

Archwilio’r llwybr

Y maes awyr agosaf at Drefyclo yw maes awyr Birmingham, sydd â hediadau rhyngwladol o bob cwr o’r byd yn mynd a dod bob dydd. Mae’r maes awyr wedi’i gysylltu â gorsaf reilffordd Birmingham International lle mae gwasanaethau’n rhedeg yn rheolaidd i nifer o gyrchfannau. 

Mae gorsafoedd rheilffordd ar ddau ben y llwybr. Mae gorsaf reilffordd Trefyclo ar linell Calon Cymru sy’n cysylltu’r Amwythig ag Abertawe. Mae Machynlleth a’r Trallwng ar linell y Cambrian sy’n rhedeg o’r Amwythig i Aberystwyth a Phwllheli.

I gael gwybodaeth fanwl am y gwasanaeth trenau, ewch i www.nationalrail.co.uk  neu  www.traveline.info.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd i/o Drefyclo a Llwydlo a Cheintun, gyda chysylltiadau â Henffordd a Llandrindod. Mae bysiau gwledig yn cynnig gwasanaeth tameidiog, yn enwedig ar ran ddeheuol y llwybr. Mae gwasanaethau dibynadwy yn cysylltu trefi Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng. 

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar www.traveline.info. 

Os ydych chi’n bwriadu gyrru ac am adael eich car mewn man cyhoeddus tra’n treulio nifer o ddyddiau’n cerdded y llwybr, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n hysbysu’r heddlu lleol o’ch bwriad. Efallai y bydd modd i chi adael eich car gyda’ch darparwr llety.

Mae meysydd parcio arhosiad byr a hir ar ddechrau a diwedd y llwybr yn Nhrefyclo a’r Trallwng. 

 

Mae dewis da o lefydd i aros yn agos at y Llwybr a gallwch eu gweld ar y Map Rhyngweithiol isod neu ar y dudalen Creu Eich Taith Eich Hun yma. 

Lawrlwythwch ac argraffwch restr o’r llefydd aros ar hyd y llwybr ar gyfer pob rhan o’r llwybr.   

Mae’r ardal yn boblogaidd a gall llefydd aros lenwi’n fuan yn y tymor brig, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn archebu mewn da bryd. 

Mae yna ddigonedd o feysydd gwersylla ar hyd y Llwybr, a gallwch eu gweld ar y Map Rhyngweithiol, neu gallwch lawrlwytho ac argraffu rhestr o fannau aros ar gyfer pob rhan o’r Llwybr.

 

Os ydych chi’n bwriadu gwersylla, cofiwch: yng Nghymru a Lloegr, fel arfer nid oes gan ddefnyddwyr y Llwybrau Cenedlaethol hawl i wersylla’n wyllt ar hyd y ffordd – felly mae’n syniad da gofyn am ganiatâd y tirfeddiannwr.

 

Mae yna sawl cwmni a all drefnu i gludo eich bagiau i chi, eich helpu chi i gynllunio’ch taith, neu drefnu pecyn llawn i chi. 

Mae rhestr o’r cwmnïau hyn i’w gweld yma.

Gellir mwynhau Llwybr Glyndŵr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. 

Mae‘r haf yn dod â diwrnodau hir a phoeth (o dro i dro) ond mae’n well gan rai pobl flodau gwyllt y gwanwyn neu liwiau hardd yr hydref. 

Yn y gaeaf, mae canolbarth Cymru dan flanced o eira yn olygfa a hanner. Fodd bynnag, rhaid cadw hinsawdd Cymru, lle mae glaw yn bosibl ar unrhyw adeg, mewn cof, a chofio hefyd fod rhai o’r llefydd aros ar gau dros y gaeaf. Felly mae’n bwysig cario dillad priodol. Cofiwch hefyd mai ychydig o olau dydd sydd yn y gaeaf (dim ond tua wyth awr yng nghanol gaeaf). 

Mae un peth yn sicr – pryd bynnag y byddwch chi’n cerdded y llwybr, mae’n siŵr o fod yn brofiad bythgofiadwy. 

Mae’r llwybr yn dechrau wrth gloc y dref yn Nhrefyclo ac yn gorffen wrth y gamlas yn y Trallwng. Dyma’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded y llwybr, gallwch fynd y ffordd arall, ond bydd dilyn y ffordd yno’n fwy o her. 

 

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n mynd â map a/neu deithlyfr gyda chi, neu gopi o’r daflen gerdded os ydych chi’n gwneud taith fyrrach. Gall cwmpawd fod yn ddefnyddiol hefyd. 

Os ydych chi’n cerdded ar eich pen eich hun, efallai yr hoffech chi ddweud wrth rhywun i ble rydych chi’n mynd gan fod rhannau ar hyd y llwybr heb signal ffôn symudol. Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn cychwyn. 

Gall tywydd y DU fod yn gyfnewidiol, felly mae’n ddoeth bod yn barod. Bydd angen esgidiau da, dillad sy’n gwrthsefyll glaw, a digon o haenau cynnes arnoch chi. Ewch â digon o ddŵr gyda chi a phaciwch ambell i blastar ar gyfer eich traed, rhag ofn. Yn ystod yr haf, mae’n bosib y bydd angen eli haul arnoch chi. 

Gall derbyniad ffôn symudol fod yn dameidiog ar hyd y llwybr, peidiwch â dibynnu ar allu defnyddio’ch ffôn i’ch helpu i ddilyn y ffordd. Bydd Wi-Fi ar gael mewn ar rhai llefydd aros a thafarndai/caffis ar hyd y ffordd. 

Mae’r Deyrnas Unedig yn unigryw gan fod yma rwydwaith o lwybrau y gall y cyhoedd eu defnyddio, dyma’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Gallwch weld y llwybrau hyn ar fapiau’r Arolwg Ordnans. 

Mae Llwybrau Cenedlaethol wedi’u harwyddo â symbol mesen a/neu enw’r Llwybr, y byddwch chi’n eu gweld ar gamfeydd, gatiau ac arwyddbyst. Dyma’r symbol a ddefnyddir gan bob un o Lwybrau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Fe welwch hefyd ddraig, sef logo Llwybr Glyndŵr a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Powys. 

Wrth i chi gerdded y Llwybr fe welwch chi hefyd arwyddbyst yn pwyntio at lwybrau eraill. Gallwch ddefnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus i adael y Llwybr er mwyn archwilio mannau o ddiddordeb, cyrraedd eich llety a dod o hyd i lefydd i gael bwyd a diod. 

Yn aml, fel welwch saethau lliw ar arwyddion, sy’n dynodi statws y rhan honno o’r llwybr. Y rhai mwyaf cyffredin yw rhai melyn, sef llwybrau troed, a glas, sy’n cyfeirio at lwybrau ceffyl. 

Gallwch lawrlwytho ffeil GPX o’r dudalen Creu Eich Taith Eich Hun(mae’r botwm o dan y map)  

Llety a bwyd

Mae dewis da o lety yn agos at y Llwybr a gellir eu gweld ar y Map Rhyngweithiol isod. Defnyddiwch yr hidlwyr map i ddangos gwahanol fathau o lety.

Fel arall, lawrlwythwch ac argraffwch restr o fannau aros ar gyfer pob rhan o’r Llwybr.

Rydym yn argymell eich bod yn archebu eich llety ymlaen llaw gan fod mannau aros yn gyfyngedig mewn rhai ardaloedd.

Mapiau, Teithlyfrau a Nwyddau

Mae’r teithlyfr a’r map swyddogol ar gyfer y Llwybr ar gael o Siop y Llwybrau ynghyd ag ystod eang o anrhegion a nwyddau eraill. 

 

 

Mae rhestr o fapiau Arolwg Ordnans ar gyfer y Llwybr i’w chael yma. 

Mae tystysgrifau ar gael o Siop y Llwybrau. 

 

Map Rhyngweithiol

Defnyddiwch yr Hidlydd Map i weld llefydd i ymweld â nhw a ble i aros ar hyd Llwybr Glyndŵr. Gallwch weld gwybodaeth ar y map trwy dicio'r blychau yn yr Hidlydd Map.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Prepare for your trip

Lleisiau Llwybr Glyndŵr

Creu eich taith eich hun

Wedi’ch ysbrydoli? Gallwch greu taith bersonol a dechrau cynllunio eich ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol gwych hwn yma.

Cysylltu â Swyddog y Llwybr

Os oes gennych chi adborth neu gwestiwn am Lwybr Glyndŵr, cysylltwch â Rheolwr y Llwybr os gwelwch yn dda 

 

Cysylltwch â Swyddog Llwybr Cenedlaethol Glyndwr