Llwybr Clawdd Offa
Byddwch yng nghanol hanes a bywyd gwyllt ger yr heneb hon o’r 8fed ganrif ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Dewch o hyd i ffeithiau defnyddiol a dysgwch fwy am Lwybr Clawdd Offa isod.
Gan ddilyn ffin Cymru a Lloegr am 177 o filltiroedd ger Clawdd Offa o’r 8fed ganrif, mae’r Llwybr Cenedlaethol hwn yn mynd â chi drwy amrywiaeth o dirweddau. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd anhygoel i gael golwg ar ein bywyd gwyllt a’n hanes brodorol. Crwydrwch Lwybr Clawdd Offa am dri diwrnod, wythnos neu fwy hyd yn oed. Fe gewch ysbrydoliaeth ar gyfer eich antur gerdded trwy ddefnyddio un o’r cynlluniau taith a awgrymir gennym, neu dewiswch un o’n cynlluniau y gellir eu harchebu, sydd â seren wrth eu hymyl.
Cliciwch ar y saeth isod i wylio ffilm fer am y Llwybr. Gallwch hefyd wylio fideos eraill am y Llwybr ar YouTube.
Wedi’ch ysbrydoli? Gallwch lunio eich cynllun taith unigryw a dechrau cynllunio eich ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol gwych hwn yma.