Darganfyddwch, archwiliwch a dadorchuddiwch straeon Llwybr Clawdd Offa....
Mae Llwybr Clawdd Offa’n gwau ei ffordd drwy dirweddau trawiadol ar ymylon Cymru a Lloegr, rhwng Cas-gwent ar afon Hafren i Brestatyn ar arfordir Gogledd Cymru.
Mae’r Llwybr wedi’i ysbrydoli gan Glawdd Offa, ac mae’n dilyn y clawdd yn agos am tua 40 milltir o’i hyd. Gan ddyddio’n ôl i’r wythfed ganrif, saif heneb eiconig Clawdd Offa hyd at wyth metr o uchder ac fe’i hadeiladwyd ar orchymyn y Brenin Offa fel ffin rhwng y ddwy deyrnas.
Heddiw, ar ei daith o fôr i fôr, mae’n gwau drwy gymoedd bryniog, mynyddoedd grugog a choetiroedd deiliog mewn wyth sir a thair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (Dyffryn Gwy, Bryniau Swydd Amwythig a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy), yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r golygfeydd panoramig ar hyd y llwybr wedi arwain at ganmoliaeth ryngwladol – mae hyd yn oed wedi’i henwi’n un o deithiau cerdded gorau’r byd gan Lonely Planet. Mae’r llwybr yn mynd â cherddwyr drwy drefi a phentrefi gwledig traddodiadol, lle mae tafarndai clyd, tirweddau trawiadol a safleoedd treftadaeth poblogaidd rif y gwlith.
Yr amrywiaeth gyfoethog hon yw’r rheswm mae Llwybr Clawdd Offa yn parhau i fod yn un o lwybrau cerdded pellter hir eiconig Prydain. Dyma sut y gallwch ymuno â’r dathliadau, hyrwyddo tirweddau’r gororau a dathlu 50 mlynedd o fodolaeth Llwybr Clawdd Offa.
Rhannwch eich profiadau o LlCO:
I ddathlu’r pen-blwydd arbennig yn 2021 gwnaethom ofyn i chi rannu eich atgofion o’r Llwybr ― boed hynny’n brofiad a gawsoch chi wythnos yn ôl neu rywbryd yn ystod y pum degawd diwethaf. Ond nawr rydym eisiau i chi ddal ati i rannu eich profiadau o’r Llwybr gyda ni!
Gyda miloedd o bobl yn llwyddo i gerdded y llwybr cyfan bob blwyddyn, rydym yn gwybod bod gan y Llwybr le arbennig yng nghalonnau cynifer o bobl. Felly, o gyfarfyddiadau ar hap gyda bywyd gwyllt prin i anturiaethau teuluol, byddem wrth ein boddau’n clywed eich hanesion am y Llwybr – ac yn gweld eich lluniau hefyd.
I gymryd rhan, rhannwch eich stori― boed yn hanesyn, ffotograff neu hyd yn oed ddarn o gelfyddyd a ysbrydolwyd gan y Llwybr ― drwy:
I bori drwy’r atgofion diddorol rydym eisoes wedi’u derbyn, ewch i Grŵp 50 o Atgofion Llwybr Clawdd Offa ar Facebook ac archwiliwch ein Instagram.
Cadwch lygad am ein harwyddion LlCO50:
Edmygwch waith celf sydd wedi’i ysbrydoli gan Lwybr Clawdd Offa yng Nghanolfan Cymdeithas Clawdd Offa
I nodi’r achlysur, cafodd arddangosfa gan yr artist o Gymru, Dan Llywelyn Hall, ei lansio yng Nghanolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo ym mis Gorffennaf 2021.
Ar y cyd â’r arddangosfa, rhyddhaodd gwasg Carreg Gwalch gyhoeddiad dwyieithog i goffáu carreg filltir y Llwybr — yn cynnwys 14 cerdd a gomisiwynwyd gan feirdd blaenllaw o Gymru gan gynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae ar gael i’w brynu, yma.
Yn y cyfamser, bydd barddoniaeth gan Gillian Clarke, Owen Sheers, Twm Morris, Robert Minhinnick, Menna Elfyn, Oliver Lomax, Siân Dafydd, Laura Wainwright, Eric Ngalle Charles, Geraint Jon, Emma van Woerkom a Clare Potter hefyd yn ymddangos yn y llyfr, gyda phob cerdd wedi ei hysbrydoli gan Lwybr Clawdd Offa ei hun.
Ar ben hynny, mae chwech o’r cerddi hyn wedi’u troi’n gyfres o ffilmiau byrion i ddathlu pen-blwydd arbennig y Llwybr. Gellir mwynhau’r rhain ar dudalen Facebook Llwybr Clawdd Offa.
Dysgwch fwy am arddangosfa ddiweddaraf Dan Llywelyn Hall, Cerdded Gydag Offa / Walking with Offa, a sut i archebu ymweliad diogel gan gadw pellter cymdeithasol, yma.
Dan Llywelyn Hall’s Walking with Offa / Cerdded gydag Offa Exhibition
Ac os nad yw hynny’n ddigon…
I goffáu 50 mlynedd ers agor Llwybr Clawdd Offa, gofynnwyd i aelodau Cymdeithas y Cerddwyr Pellter Hir rannu eu hatgofion ar hyd y Llwybr Cenedlaethol. Dysgwch gan Croeso i Gerddwyr (Walkers are Welcome) pam mae Llwybr Clawdd Offa mor bwysig.
Cliciwch yma i ddarllen am anturiaethau un teulu ar hyd Llwybr Clawdd Offa 50 mlynedd yn ôl, neu gwrandewch ar gyfansoddiad hardd yr Athro Watkins a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur arbennig hwn.
Archwiliwch y Llwybr gartref gyda chyfres Wonders of the Border ITV:
Daliwch i fyny gyda chyfres ddiweddaraf ITV, Wonders of the Border, sy’n dilyn Sean Fletcher, cyflwynydd Countryfile a Good Morning Britain, ar ei daith gerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa.
Yn y gyfres chwe rhan, mae Sean yn ymweld â mwy na 50 o leoliadau ar hyd y Llwybr llinellol 177 milltir o hyd ac yn cwrdd â rhai o’r bobl anhygoel a’r busnesau lleol sydd wedi ymgartrefu ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr.
I ddal i fyny ar y gyfres, a ddarlledwyd yng Nghymru rhwng Ebrill a Mai 2021, ewch i itv.com/wales programmes.
Dilynwch ni a rhannwch eich straeon a’ch lluniau drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #OffasDykePath