50 mlwyddiant - Cas-gwent i Glogwyn Sedbury
Manylion y llwybr
Trosolwg Tro dymunol ar hyd llwybrau maestrefol cul cyn cyrraedd cefn gwlad agored a golygfeydd dros Aber Hafren. Y naill ben neu’r llall i’ch tro, cymerwch amser i archwilio castell mawreddog Cas-gwent sy’n eiddo i Cadw.
Pellter: 4.4 milltir/ 7km
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SJ 53498 94173
What Three Words: https://w3w.co/encloses.daytime.essay
Man cychwyn
Dechreuwch eich taith wrth y fynedfa i gastell trawiadol Cas-gwent, sy’n hofran ar lannau dolennog afon Gwy. Gan adael y castell y tu ôl i chi, trowch i'r chwith i Bridge Street cyn edmygu'r golygfeydd dros gampwaith pensaernïol hardd Pont Cas-gwent.
Gan ddilyn Llwybr Clawdd Offa, crwydrwch i fyny’r llwybr sydd â waliau cerrig o boptu iddo gan droi i’r dde ychydig i fyny’r rhodfa a gadael y dringo ysgafn at ddiwrnod arall. Crwydrwch ar hyd y llwybr muriog uchel, gan adael i’ch dychymyg ail-fyw naws y gorffennol, môr-ladrad yn y dref borthladd a mynd a dod y morwyr ymhlith y clogwyni. Dewch o hyd i’r plentyn y tu mewn i chi ac ewch am antur, gan ymdroelli i fyny ac i lawr o amgylch ymyl y clogwyn y tu ôl i ble mae pobl y dref yn byw heddiw, gyda phytiau o ysblander golygfaol yn torri trwy’r glesni i roi golwg i chi ar olygfeydd ar draws y dŵr. Teithiwch ar hyd Beachley Road, gan groesi’r bont reilffordd cyn troi i’r dde i Wyebank Avenue ac yna i’r chwith i ddilyn Llwybr Clawdd Offa ar hyd lôn werdd ddeiliog, sy’n dilyn yr afon wrth i chi anelu tuag at Aber Hafren ac yn raddol adael anheddau gardd-dinas y gweithwyr llongau y tu ôl i chi.
Llenwch eich synhwyrau ag awyr y môr wrth i’r caeau a gysgodir gan wrychoedd agor o’ch blaen ac wrth i wrthglawdd Clawdd Offa o’r wythfed ganrif a gloddiwyd â llaw leinio’r llwybr sy’n codi i fyny tuag at Glogwyn Sedbury. Yma fe welwch garreg goffa i nodi’ch cyflawniad ac yna wrth droi’ch cefn ar y dyfroedd, ysbrydolwch eich enaid wrth feddwl am yr antur sydd rhwng lle rydych yn sefyll yma a phen arall y llwybr, 177 milltir o hyd.
Cyn camu’n ôl i Gastell Cas-gwent a phrofi persbectif gwahanol, cymerwch gipolwg ar aber helaeth Afon Hafren, ei phont eiconig ac allan tuag at y byd y tu hwnt.
Nodiadau / cludiant i’r man cychwyn
Parcio
Mae lle parcio ar gael wrth Gastell Cas-gwent neu yn un o’r meysydd parcio cyhoeddus yng Nghas-gwent.
Bws
Amherthnasol
Trên
Amherthnasol
Gwybodaeth gyffredinol
https://www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/Cas-gwent.aspx
Mwy o fanylion
50 mlwyddiant - Llwybr Cylchol Newcastle on Clun
50 mlwyddiant - Llwybr Cylchol Trefyclo a Norton
Manylion y llwybr
Taith o ddringfeydd graddol hir a disgynfeydd tonnog, ar hyd lonydd gwledig tawel, traciau cerrig a thrwy gaeau glaswelltog. Mae llawer o'r ffordd yn ôl yn dilyn rhan odidog o Glawdd Offa.
Pellter: Cylchol: 8.7 milltir / 14 km
Llinol: 5.3 milltir / 8.4 km
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: Trefyclo: SO 28690 72253
Arhosfan bws Norton: SO 30419 67041
What Three Words: https://w3w.co/bungalows.rich.tries
Man cychwyn
Mwynhewch y daith gerdded hon naill ai fel llwybr cylchol egnïol neu cymerwch fws i Norton am daith linol yn ôl. Am daith ddychmygus i mewn i diriogaeth y brenhinoedd, ychwanegwch ymweliad â Chanolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo at eich antur.
O’r cofadail yng nghanol y dref a gyda'r gwesty o'ch blaen, teithiwch i'r chwith ar hyd Bridge Street, gan basio garej cyn gwyro i'r chwith ochr yn ochr â thir chwarae ac ysgol ar y dde. Yn union ar ôl yr ysgol trowch i'r dde i Lon Farrington, ymlwybrwch gyda'r ffordd cyn belled â'r pant a llwybr ceffylau ag arwyddbyst clir ychydig i'ch ochr chwith. Mae llethr raddol yn arwain y ffordd o’ch blaen at ael y bryn, crwydrwch i fyny llwybr ceffylau cul hardd ac ar hyd lôn wledig fach cyn troi i ddilyn trac cerrig lle mae'r golygfeydd eang yn ymddangos i’ch gwobrwyo ar ôl eich ymdrech.
Wrth gyrraedd ael y bryn ac ardal goediog fach ar eich ochr chwith, parhewch yn syth ymlaen, ar hyd hen drac prydferth lle mae'r byd yn syrthio i ffwrdd o dan eich traed. Mae'r trac yn ymuno â Meeting House Lane, gan basio dyrnaid o ffermydd ac anheddau sy'n swatio ar ochr y bryn ac o'ch blaen, tuag at bentref Norton.
Wrth gyrraedd pen y lôn, trowch i'r chwith i'r ffordd, gan droi i fyny am y pentref a chrwydrwch o amgylch tiroedd yr eglwys, sy'n darparu'r man perffaith i gael gorffwys a thamaid yn eich bol a theimlo enaid y gymuned. Os ydych chi wedi cyrraedd ar fws, cerddwch i fyny tuag at yr eglwys a dechreuwch eich taith yma.
Cymerwch y ffordd fechan yn union gyferbyn â giât yr eglwys, gan edmygu'r cafn dŵr coffa wrth fynd heibio. Gan adael y pentref y tu ôl i chi, dringwch y trac cerrig tuag at y coetir, gan barhau'n syth ymlaen, gan lapio o amgylch y coetir ar y dde. Wrth i'r trac nesáu at Old Impton Farm, cymerwch y llwybr uchaf yn ffinio â'r caeau, gan ddilyn y arwyddbyst ar letraws ar draws y cae tuag at drac coetir a chan wyro i'r chwith ymlaen at gaeau ar ben y bryniau. Gwyrwch fymryn i’ch dde wrth i chi ddod at ael y bryn ac ewch tuag at y mynegbost yn y gornel, lle mae eich llwybr yn ymuno â Llwybr Clawdd Offa. Oddi yma teithiwch yn ôl i fyny ar hyd llinell y ffens lle byddwch yn dechrau dilyn arwyddion y Llwybr Cenedlaethol am weddill eich taith.
Ewch ar draws pen y bryn a phan fyddwch hanner ffordd ar draws, gwyrwch tuag at y pwynt uchel ar eich ochr dde, lle gallwch orffwys yng nghanol clwstwr o goed a gwerthfawrogi golygfeydd ysblennydd o Hawthorn Hill cyn disgyn i gwrdd â'r llwybr unwaith eto. Ymlwybrwch ochr yn ochr â Chlawdd Offa am weddill eich disgyniad graddol tuag at Drefyclo, gan fynd drwy gaeau tir fferm, drwy wrychoedd a chan ryfeddu at henebion cyn i chi ddisgyn i Drefyclo ymhlith dail Great Frydd Wood. Ymestynnwch eich coesau gyda thro byr o amgylch y dref a lluniaeth haeddiannol!
Nodiadau/cludiant i'r dechrau
Parcio
Lle parcio ar gael yng Nghanolfan Clawdd Offa neu yn un o'r meysydd parcio cyhoeddus yn y dref.
Bws
O Orsaf Fysiau Trefyclo ar Bowling Green Lane i arhosfan bysiau Norton
Trên
Amherthnasol
Cyffredinol
Dolen i visitknighton.co.uk
Mwy o fanylion
50 mlwyddiant - Llwybr Cylchol Trefynwy i Redbrook
Manylion y llwybr
Trosolwg Gan gyfuno Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Dyffryn Gwy, gadewch brysurdeb y dref am lwybrau coediog, lonydd gwledig a throeon hamddenol ar hyd glan yr afon, gan ymestyn eich coesau ar drywydd golygfeydd ysblennydd o gopa’r Cymin cyn taro draw i weld y Tŷ Crwn a Theml y Llynges.
Pellter: 7 milltir / 11 km
Man cychwyn: Neuadd y Sir, Monow Street, Trefynwy
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SO 50771 12844
What Three Words: w3w.co/racetrack.deciding.untruth
Man cychwyn
- Dechreuwch eich taith o Neuadd y Sir ar ben Monow Street. Gyda'ch cefn at y neuadd, trowch i'r dde ac wrth i'r ffordd ddechrau gwyro, trowch i'r dde ar hyd Church Street, stryd gul sy’n frith o siopau bach. Gan ddilyn arwyddion ar gyfer Llwybr Clawdd Offa, trowch i'r dde i St Mary’s Street ac ar y pen, trowch i'r chwith i St James Street am gyfnod byr cyn troi i'r dde a mynd tuag at yr isffordd, i fyny a thros y bont, i adael y dref y tu ôl i chi.
- Wrth ddringo i ffwrdd o’r bwrlwm, dilynwch y palmant ar hyd ffordd ddeiliog, gan groesi'r ffordd i gymryd llwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog ond ychydig uwchben y ffordd. Wrth ddod allan o'r coed, mae'r lôn wledig yn eich tywys ymlaen ac i fyny tuag at goetir y bryniau a'r Cymin.
· Mae eich tro tangnefeddus dan y dail, sy'n mynd drwy Goedwig Beaulieu sy'n eiddo i Coed Cadw, yn gyforiog o fywyd gwyllt ac wrth i’r llwybr gyrraedd tir a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’n dod yn dirwedd agored gyda golygfeydd godidog dros Drefynwy a'r wlad o’ch cwmpas. Mae'r Tŷ Crwn a Theml y Llynges, eu dau wedi’u hadeiladu yn y ddeunawfed ganrif ac sy'n dathlu rhai o lyngeswyr a buddugoliaethau gorau Prydain ar y pryd, yn gefndir perffaith ar gyfer seibiant a phicnic, yn union fel ydoedd ganrifoedd lawer yn ôl.
- Gan adael eich hafan ar ben y bryn, ewch drwy'r maes parcio a dilynwch lwybr coediog tuag at gaeau a thrac cerrig sy'n mynd ar i lawr yn raddol, gan gwrdd â lôn wledig ac wrth y gyffordd trowch i'r dde tuag at ddyrnaid o fythynnod ar ochr y ffordd, sy'n swatio yn y cwm.
- Wrth nesáu at y bont, ewch ar y trac ag arwyddbyst i'r chwith ac anelwch y tu ôl i’r tai uwchben y ffordd a disgynnwch i Redbrook, gan fachu tamaid i’w fwyta o siop y pentref wrth i chi fynd. Ar un adeg, roedd y dref hon ar lannau Afon Gwy yn fwrlwm o weithgarwch diwydiannol, am gannoedd o flynyddoedd yn llawn ffwrneisiau chwyth ar gyfer mwyndoddi copr a haearn, melinau ŷd a phapur ac yn olaf, yn gartref i ffatrïoedd haenau tunplat wedi'u rholio â llaw, a elwir yn 'taggers', yn Ewrop.
- Ar ôl archwilio'r pentref a'r hen bont reilffordd dros yr afon, ewch ar Lwybr Cerdded Dyffryn Gwy, sy’n llwybr pellter hir, gan gysylltu eich llwybr ger croesfan y bont reilffordd ac ychydig cyn ardal eistedd laswelltog fach wrth ymyl y cae pêl-droed.
- Dychwelwch ar hyd cymal bendigedig sy’n glynu at lan yr afon, lle mae gwerin y glannau’n hamddena a bywyd gwyllt yn ffynnu. Fe welwch hefyd gampau peirianyddol yn sefyll yn eu gogoniant ar gyrion Trefynwy, sef yr hen bontydd rheilffordd a Thraphont Trefynwy.
- Dilynwch yr afon i'r cae criced gan gwrdd â'r llwybr y dechreuodd arno, lle byddwch yn dilyn eich camau yn ôl dros Bont ar Wy, o dan y ffordd a thrwy'r strydoedd i'r man cychwyn.
Nodiadau/cludiant i'r dechrau
Parcio
Lleoedd parcio ar gael mewn nifer o feysydd parcio cyhoeddus
Bws
Amh.
Trên
Amh.
Mwy o fanylion
50 mlwyddiant - Llwybrau Cylchol y Castell Gwyn
Manylion y llwybr
Teithiwch ar draws caeau a lonydd gwledig gyda nifer o opsiynau ar gyfer eich llwybr, lle byddwch yn treiddio’n llawer pellach i’r byd diwylliannol na’ch camau corfforol. Cynlluniwch eich teithiau cerdded o amgylch ymweliad â’r Castell Gwyn, y castell mwyaf trawiadol a’r un sydd yn y cyflwr gorau o blith y triawd o gaerau a godwyd yn Sir Fynwy i reoli'r ffin.
Pellter: Llwybr cylchol Llanwytherin 2.2 milltir / 3.6 km
Llwybr cylchol Tre-Rhew 1.9 milltir / 3 km
Llwybr cylchol cyfunol 3 milltir / 4.7 km
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SO 38003 16862
What Three Words: w3w.co/tides.socialite.lodge
Man cychwyn
- O faes parcio’r Castell Gwyn, crëwch eich antur eich hun drwy gerdded naill ai un llwybr yn unig neu gyfuno’r llwybrau i greu llwybr cylchol mwy neu ffigur wyth.
- Ar gyfer llwybr cylchol y Castell Gwyn i Lanwytherin – gan wynebu porth y castell, ewch ar y llwybr ar eich ochr dde ag arwyddbost Llwybr Clawdd Offa ac o amgylch ei gyrion ar hyd adran ddeiliog. Wrth gyrraedd cae agored, dilynwch linell y clawdd, trowch i'r dde y tu ôl i Duke’s Barn a thrwy'r giât yn y cae cyfochrog. Dilynwch lwybr glaswelltog sydd wedi'i wisgo wrth iddo ddisgyn i lawr y rhiw a thuag at giât cyn dringo'n raddol drwy gaeau tuag at y ffordd yn Llanwytherin.
- Trowch i'r dde wrth y ffordd a chrwydro drwy'r pentref tawel, lle byddwch yn gadael Llwybr Clawdd Offa ac yn parhau ar hyd y ffordd, gan barhau â'ch taith dros y bont cyn disgyn i ffwrdd o'r ffordd ar eich ochr dde ac ymuno â Llwybr Cerdded y Tri Chastell.
- Gan groesi’r cae, ewch dros y bont droed (1) i olion Melin Great Tre-Rhew, a oedd ar un adeg yn darparu cyflenwadau hanfodol o flawd i'r garsiwn. Gan ddychwelyd i'r presennol, ewch dros y gamfa i'r dde o'r bont, gan fynd i fyny'r rhiw lle gwelwch olygfeydd eang a phell. Teithiwch ar draws caeau i gyrraedd trac cerrig wedi'i gysgodi ymysg y coed ac fe gyrhaeddwch faes parcio'r Castell Gwyn unwaith eto.
- Ar gyfer llwybr cylchol Melin, Fferm a Gwinllan Great Tre-Rhew – gyda'ch cefn tuag at dir y castell, gadewch y Castell Gwyn ar y lôn ddeiliog i'r chwith o'r maes parcio, gydag arwydd Llwybr y Tri Chastell. Wrth i'r lôn lifo i gyfres o gaeau, mwynhewch olygfeydd o'r dyffrynnoedd a'r bryniau pell cyn disgyn i lawr i'r nant a Melin Great Tre-Rhew. Trowch i'r dde dros y bont droed (1) a chroeswch bum cae. Cyn cyrraedd y ffordd, pasiwch Fferm Great Tre-Rhew, y mae ei hadeiladau’n tarddu o'r ail ganrif ar bymtheg.
- Cyrhaeddwch y lôn wledig, trowch i'r dde dros y bont fach a sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser i daro i mewn i Winllan y Tri Chastell. Unwaith y byddwch wedi profi ei thrysorau, parhewch â'ch taith a dringwch y lôn wledig yn ôl i’r Castell Gwyn, gan gadw i'r dde wrth y gyffordd gyntaf ac eto wrth i'r ffordd gyrraedd Bwthyn y Castell Gwyn, gan gyrraedd y maes parcio drachefn.
- Am ddolen ehangach sy'n cwmpasu'r ddwy ddolen fyrrach – parhewch fel uchod a thuag at Lanwytherin, gan ddisgyn o'r ffordd ar hyd Llwybr Cerdded y Tri Chastell. Wrth y bont droed (1) trowch i'r chwith i ddilyn y coedlin ac ymyl y dŵr a chyn gadael, ewch dros y nant i edrych ar olion y felin a dychwelwch dros y bont.
- Crwydrwch ar hyd ymyl y dŵr, gan groesi caeau i gyrraedd y lôn wledig a Gwinllan y Castell Gwyn, cyn dringo'r lôn yn ôl i’r Castell Gwyn. Arferai’r castell crand hwn fod yn adeiledd pren a phridd, ond heddiw mae’n adeilad amddiffynnol sydd wedi'i amgylchynu gan ffos ag ymylon serth sydd wedi'i llenwi â dŵr, sy’n gartref i beth wmbredd o fywyd gwyllt.
Nodiadau/cludiant i'r dechrau
Parcio
Mae maes parcio bach yn y Castell Gwyn.
Bws
Amh.
Trên
Amh.
Cyffredinol
Cynlluniwch eich taith ar sail taith o gwmpas Gwinllan y Castell Gwyn neu ychwanegwch ychydig o amser i daro i mewn am sesiwn flasu –
www.whitecastlevineyard.com
Mwy o fanylion
50 mlwyddiant - Taith Gerdded y Bryniau, Prestatyn
Byddwch yn gwibio am y godreon ac yn esgyn i’r entrychion mewn ffrwydrad o brofiadau ar gledrau dychmygol ac o flaen golygfeydd syfrdanol.
Manylion y llwybr
Trosolwg Esgyniad hamddenol ar hyd llinell reilffordd segur ac yna ddringfeydd graddol drwy lwybrau coediog, lonydd gwledig a llethrau byrion cyffrous i gyrraedd llwybr cul ar hyd ystlys y bryniau ar rannau o'r daith yn ôl.
Pellter byr: 5.9 milltir / 9.4 km
canolig: 6.5 milltir / 10.3 km
llinol: 4.6 milltir / 6.7 km
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SJ 06435 82961
What Three Words: https://w3w.co/crossing.attend.inherits
Man cychwyn
Dechreuwch eich antur ar gornel tiroedd y farchnad, gyferbyn â'r orsaf fysiau ar Gas Works Lane. Gan gefnu ar ganol y dref ewch ar hyd stryd gul, sy'n dirwyn i ben ar ôl ychydig, gan droi’n drac beicio. Gan gymryd y llwybr i'ch ochr chwith, ymlwybrwch drwy dai tuag at fan cychwyn Llwybr Prestatyn i Ddyserth sy’n dawel a didraffig ac yn rhan o Lwybr Gogledd Cymru ac ymgollwch mewn meddyliau am y gorffennol, ar hyd yr hen reilffordd sydd bellach yn goridor bywyd gwyllt gwych llawn clebran byrlymus cymdeithion cyfeillgar.
Caniatewch ddigon o amser i oedi am damaid yn y caffis wrth ochr y llwybr a chymerwch amser i ddarganfod Y Shed yng nghanol Alltmelyd, lle mae hen adeilad carreg bellach yn ganolfan gymunedol gyda chaffi, siop a gofod arddangos.
Gan adael Prestatyn a’r aneddiadau ar ei gyrion, mwynhewch olygfeydd dros gymunedau arfordirol ac olion cynnil campau peirianegol y gorffennol ymhlith y brigiadau creigiog. Daliwch eich gafael o amgylch bryngaer Graig Fawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac, ar gyfer y llwybr byr, wrth y bont ffordd gadewch yr hen reilffordd a mentro i fyny ar lwybr sy'n cofleidio’r bryn, drwy goetir llawn clychau'r gog nes i chi gyrraedd y top a'r giât wedi'i gosod yn y wal gerrig. (1) I weld golygfeydd arfordirol panoramig arbennig, gwyrwch oddi ar y llwybr ar hyd y bryn a thuag at y pwynt trig cyn dilyn eich camau yn ôl i'r mynegbost hwn ger y wal gerrig.
Os ydych chi’n cymryd yr opsiynau hirach, parhewch ar hyd yr hen reilffordd lle mae’r cyfoeth o fywyd gwyllt yn teyrnasu’n falch dros y llain hanesyddol hon. (2) Gan basio o dan y bont garreg nesaf, dringwch y grisiau i'r chwith, gan adael y llwybr a gwyro i'r dde i ymuno â lôn wledig gul iawn, parhewch ymlaen ac i fyny ar y groesffordd groesgam nes i chi gyrraedd y mynegbost ger y wal gerrig a chwrdd â'r opsiwn ar gyfer llwybr byr (1) Yma gwyrwch oddi ar y llwybr ar draws y bryn tuag at y trig cyn dychwelyd at y llwybr ar y pwynt yma eto.
Wrth i'r ddau lwybr uno, dilynwch y ffordd am bellter byr i bentref Bryniau ac, wrth i'r ffordd fforchio, trowch i'r chwith i ymuno â Llwybr Clawdd Offa sy'n disgyn yn fuan i lwybrau coetir hamddenol. Wrth i'r coed ddiflannu’n raddol mae ehangder llawn Gwarchodfa Natur Bryniau Prestatyn yn ymddangos, gan ddatgelu golygfeydd arfordirol o'r llwybr o'ch blaen. Gan afael am y bryniau drwy eithin euraid, rhyfeddwch at yr annedd pert a dringwch yn uchel cyn disgyn tuag at gynhesrwydd y môr, ar hyd llwybr o arwyddbyst euraid yn eich croesawu i'r gymuned ac yn dathlu eich cyflawniad. Ewch allan i'r arfordir a charreg goffa Llwybr Clawdd Offa cyn rhoi eich traed yn y tonnau, gan aros yma neu fynd yn ôl i'r dref i gael tamaid haeddiannol i’w fwyta.
Am lwybr hirach, ewch ar hyd yr hen reilffordd yr holl ffordd i Ddyserth ac ewch i lawr i'r dref isaf i archwilio Rhaeadr Dyserth a'i rhwydwaith o lwybrau cymunedol cyn ailymuno â'r rheilffordd ac ar ôl i chi ddychwelyd, gadewch y llwybr wrth y bont gerrig i ymuno â’r opsiwn llwybr pellter canolig (2).
Neu, os ydych chi eisiau taith linol, cymerwch fws i Stryd Fawr Dyserth a mynd i fyny ar hyd y ffordd nes i chi gyrraedd man cychwyn Llwybr Dyserth i Brestatyn, gan adael yr hen reilffordd wrth y bont gerrig (2).
Nodiadau/cludiant i'r dechrau
Parcio
Lle parcio ar gael yn y maes parcio cyhoeddus, ger yr orsaf drenau, yng nghanol Prestatyn.
Bws
Ewch ar fws i Ddyserth am lwybr llinol sy’n cynnwys y rhan ar hyd yr hen reilffordd i'r bont gerrig lle mae'n ymuno â’r llwybr canolig.
Trên
Amherthnasol
Gwybodaeth gyffredinol
Mwy o fanylion
50 mlwyddiant - Taith Gylchol Trefaldwyn
Manylion y llwybr
Taith gerdded hamddenol a dymunol yn pontio ffin Cymru a Lloegr gyda golygfeydd o gastell mawreddog Trefaldwyn ar ben ei dwmpath a bryniau Swydd Amwythig yn y pellter.
Pellter: 3 milltir / 4.8 km
Man cychwyn: Maes parcio cyhoeddus wrth y fynedfa i Lwybr Maldwyn (ar y B4385 sy'n arwain tuag at Drefesgob)
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SO 22472 96297
What Three Words: w3w.co/nuns.vowed.half
Man cychwyn
- O faes parcio ymyl y dref, ar bwys y caeau chwarae, cerddwch tuag at ganol y dref, gyda Neuadd Tref Trefaldwyn, enghraifft eithriadol o Neuadd Tref a Marchnad Sioraidd fawr a adeiladwyd ym 1748 yn ôl dyluniad William Baker o Audlem. Ar ddiwedd Broad Street ar eich ochr chwith, trowch i'r dde i Church Bank ac os ydych yn ymuno â'r llwybr yng nghanol y dref, cyfunwch eich taith yma.
- Archwiliwch dir yr eglwys, gyda'i lwybr mynediad isel a'i lethrau glaswelltog yn uchel uwchben. Pasiwch yr eglwys ac ychydig cyn gadael y fynwent cymerwch olwg ar Fedd y Lleidr, sef man claddu John Davies, a gafodd ei gyhuddo ar gam a’i grogi; honnodd ei fod wedi datgan na fyddai unrhyw laswellt yn tyfu ar ei fedd am gan mlynedd fel arwydd o'i ddiniweidrwydd.
- Gan adael tir yr eglwys, trowch i'r dde ac yna bron yn syth, ewch i lawr i gwrdd â Church Bank, gan basio Heale House a'r ysgol, ac ymlaen nes cyrraedd Chirbury Road. Dilynwch y palmant ar eich ochr dde, gan basio'r orsaf dân a mynd tuag at ymyl y dref.
- Wrth i gaeau gymryd lle anheddau, trowch i'r dde i Lymore Park Lane ac edrychwch i fyny i'r castell, sy’n teyrnasu ar ben y bryn. Mewn caeau ar eich ochr chwith, mae gweddillion gwrthgloddiau o'r Oesoedd Canol lle defnyddiwyd dulliau ffermio cefnen a rhych. Wrth nesáu at y llyn ac wrth i'r ffordd wyro i'r dde, trowch i'r chwith tuag at y tŷ coch a chroesi'r cae rhwng y tŷ a'r coed, tuag at y gornel dde bellaf lle mae camfa yn mynd â’ch llwybr i'r cae drws nesaf.
- Dilynwch y coedlin gyda'r nant ar eich ochr dde ac ymlaen i gaeau pellach, gan ymuno â'r Llwybr Cenedlaethol i'r dde lle mae golygfeydd o fryniau Swydd Amwythig yn agor i’r chwith wrth i chi grwydro ar hyd Llwybr Clawdd Offa.
- Wrth gwrdd â'r ffordd, gadewch Lwybr Clawdd Offa a throi i'r dde i Barc Lymore, a adeiladwyd yn hwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg. Dyma barc ceirw a thirwedd deniadol sydd wedi'i gynnal a’i gadw'n dda, yn gorwedd ar dir tonnog ymysg derw hynafol a gwrthgloddiau o'r hyn a arferai fod yn byllau yn y coetir.
- Yn fuan ar ôl adeiladau'r fferm a chyda phwll ar eich ochr dde, gadewch y ffordd i ddilyn llwybr ceffylau a’i resi o goed ar ei ymylon yn ôl tuag at y maes parcio a thuag at y dref fach a chanddi hanes mawr, lle mae'n teimlo fel pe bai amser yn peidio ond lle mae llawer i'w ddarganfod.
Nodiadau/cludiant i'r dechrau
Parcio
Lleoedd parcio ar gael yn y maes parcio ar ddechrau'r daith gerdded.
Bws
www.cymraeg.traveline.cymru
Cyffredinol
Archwiliwch Drefaldwyn, ei chastell a thrysorfa fendigedig Bunners Hardware.
Mwy o fanylion
50 mlwyddiant - Taith Penrhyn Lancaut
Trosolwg
Taith hyfryd allan ar hyd lonydd gwledig a llwybrau coediog cul. Dychwelwch ar hyd llwybr coediog tonnog ar lan y dŵr, gyda rhan o’r llwybr yn cynnwys clogfeini heriol neu’n croesi caeau agored o fewn tirwedd hyfryd. Cymerwch amser i werthfawrogi olion yr eglwys ganoloesol sy’n swatio yn y warchodfa natur, un o’r eglwysi cynharaf yn Nyffryn Gwy, ac ymwelwch â Chastell Cas-gwent sy'n eiddo i Cadw yn ystod eich diwrnod.
Pellter: Ymyl y dŵr: 4.4 milltir / 7 km
Mewndirol: 5.6 milltir / 9 km
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SJ 53498 94173
What Three Words: https://w3w.co/encloses.daytime.essay
Man cychwyn
Dechreuwch eich taith wrth y fynedfa i Gastell Cas-gwent, ar lannau afon Gwy. Gan adael y castell y tu ôl i chi, trowch i'r chwith i Bridge Street cyn edmygu golygfeydd o Bont Cas-gwent, campwaith pensaernïol hardd sy'n diffinio'r ffin wledig.
Mae llwybr â waliau cerrig ar ei hyd yn eich hebrwng ymlaen ac yna byddwch yn dringo rhywfaint, gan adael yr afon ar ôl a chwrdd â chroesfan ar y top lle mae'ch taith yn parhau'n uniongyrchol o'ch blaen. Gadewch Mopla Road lle mae tro yn y ffordd a lle mae'r llwybr yn troi’n gaeau. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Llwybr Clawdd Offa, gan fynd heibio tŵr gwylio adfeiliedig ar y dde neu felin wynt a choetir wedi’i orchuddio gan glychau’r gog ar y chwith. Cerddwch o amgylch y gerddi muriog a thuag at yr annedd Fictoraidd mawreddog o’ch blaenau. Ym mhen draw’r cae cymerwch y llwybr i’r dde, wrth iddo ddolennu o flaen yr eiddo a mynd o dan bont gardd cyn cyrraedd y ffordd.
Edrychwch allan i weld golygfeydd ar draws Pont Hafren wrth i chi droi i’r chwith, croeswch y ffordd a theithiwch ychydig y tu hwnt i’r tro, gan fynd trwy giât fach at lwybr deiliog Moyle Old School Lane. Ewch ymlaen, gan gerfio’ch ffordd ar hyd clogwyn y chwarel, gan gyrraedd golygfan Wintours Leap lle mae’r byd i’w weld wrth eich traed. O’r fan hon, dilynwch y ffordd i’r chwith a chymryd yr is-ffordd 'Lancaut Lane' tuag at warchodfeydd natur Lancaut a Ban-y Gor. Ewch i lawr o’r lôn wrth y mynegbost at eglwys Lancaut, gan grwydro ar hyd llwybr y coetir, heibio’r odynau calch lle mae’r llwybr uchaf yn ymdroelli ymlaen at ymyl y goedwig, trwy gae cyn cyrraedd y clwstwr bach deniadol o adeiladau yn Lancaut.
Ewch trwy’r giât ar dop y cae ac ewch ar letraws i lawr yr allt tuag at giât, gan ymdroelli at yr eglwys ar lwybr sy’n dod â chi i gysylltiad â llu o atgofion canoloesol o bentref sydd bellach wedi mynd, ond a oedd unwaith wedi’i lenwi â physgotwyr.
Yma gallwch ddewis mynd yn ôl ar hyd dau lwybr gwahanol, naill ai trwy lwybr coetir ar hyd ymyl y dŵr neu drwy gaeau agored i gael golygfeydd eang o fryniau tonnog.
Os byddwch yn dychwelyd ar hyd llwybr yr hen bysgotwr ar ymyl y dŵr, ewch i lawr islaw’r eglwys, gan fynd heibio adfeilion bwthyn Fish House a dilyn llwybr anturus o lethrau serth achlysurol a chyfle i sgrialu ar hyd sgri clogfeini. Teimlwch fel fforiwr Astec o dan wyneb y clogwyn ac ailymunwch â Llwybr Clawdd Offa ar lwybr y plasty Fictoraidd cyn troi yn ôl i Gas-gwent.
Os dychwelwch ar draws pen y clogwyni, cymerwch y llwybr tuag i fyny, gan ddringo uwchlaw’r eglwys, heibio llwyfannau gwastad y pentref canoloesol a gollwyd ac yn ôl tuag at yr odynau calch. Yma ewch yn ôl i’r chwith, ar hyd Lancaut Lane, i’r maes parcio a thu hwnt at y gyffordd. Wrth y gyffordd ewch i’r dde, ychydig i lawr yr allt ac yna, gan ddilyn y ffordd ychydig y tu hwnt i olygfan Wintour Leap a’r lle y gwnaethoch ymuno â’r ffordd o’r blaen, i’r llwybr cul wedi’i farcio ar Lwybr Clawdd Offa sydd i’w weld rhwng y tai ar y chwith.
Ewch ymlaen ar draws dau gae sydd wedi’u rhannu gan drac fferm. Camwch oddi ar y llwybr am ennyd a mynd trwy’r giât ar eich chwith, gan osgoi’r llwybr cul sy’n arwain at dai ar y dde, a pharhewch gan ddilyn llinell y gwrych tuag at gaeau agored, gan ddilyn y trac i'r dde o'r gwrych nesaf nes cyrraedd y lôn wledig.
(2) I ddilyn dargyfeiriad fydd yn cipio’ch anadl, cymerwch gipolwg ar Lôn Las ddidraffig Dyffryn Gwy sy’n 5 milltir o hyd a Thwnnel Tidenham sy’n 1080m o hyd.
Gan ddychwelyd i’r man lle gwnaethoch adael, trowch i’r dde tuag at Tutshill ar hyd y lôn wledig am ychydig a dilynwch Ffordd Swydd Gaerloyw i’r cae ar y dde lle mae trac yn rhedeg yn gyfochrog â'r lôn. Dilynwch y trac i lawr y bryn tuag at y fferm, gan fynd o amgylch yr adeiladau cyn mynd ymlaen ar hyd caeau agored sy’n ymdoddi i anheddau a llwybrau cul deniadol. Wrth i chi ddod allan trowch i’r dde tuag at y ffordd ac ewch i’r chwith, heibio’r arhosfan bysiau a’r ganolfan gymunedol, gan fynd i’r dde i mewn i Mopla Road nes i chi ddod yn ôl i’r llwybr y gwnaethoch ei ddilyn ar ddechrau’r daith ac ewch yn ôl at y bont a chlwstwr y castell.
Nodiadau / cludiant i’r man cychwyn
Parcio
Mae lle parcio ar gael wrth Gastell Cas-gwent neu yn un o’r meysydd parcio cyhoeddus yng Nghas-gwent.
Bws
Amherthnasol
Trên
Amherthnasol
Gwybodaeth gyffredinol
https://www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/Cas-gwent.aspx
Mwy o fanylion
Cerdded i wallgofrwydd - 4.5 Milltir, taith gerdded Hen Gwrs Rasio Croesoswallt
Yn eira’r gaeaf, byddai’r orsedd gerrig yn Candy Woods yn fwy cartrefol yn Narnia nac yn Swydd Amwythig. Ond mae’r tir hwn yr un mor epig â byd ffantasi C. S. Lewis. Nododd Clawdd Offa’r ffin â Chymru, a reolwyd yn ddiweddarach gan arglwyddi Normanaidd y Mers a adeiladodd ar ei hyd gestyll mor nerthol â Cair Paravel. Ac fe wnaeth John ‘Mad Jack’ Mytton, a gollodd ei etifeddiaeth trwy gamblo, farchogaeth arth i swper yma un tro. Fe wnaeth hefyd enwi ei fab yn Euphrates ar ôl ei hoff geffyl rasio. A wnaeth Gwrach o Frenhines rewi pennau’r ceffylau?
Mwy o fanylion
Cŵn duon dychrynllyd - 8.5 Milltir, dewisiadau ar gyfer llwybr byrrach. Taith gerdded ar ffin Swydd Henffordd - Ceintun, Cefn Hergest a Bryn Rushock
Mae ysbryd ci hela mawr du gyda llygaid fflamgoch yn crwydro bryniau Ceintun a dywedir mai dyma ysbrydoliaeth Conan Doyle ar gyfer ei Hound of the Baskervilles. O Gefn Hergest fe gewch olygfeydd syfrdanol o dirwedd ôl-rewlifol. Mae siâp rhyfedd coes ci yng Nghlawdd Offa ar Fryn Rushock yn eich arwain at y cwrs golff 18 twll uchaf yn Lloegr. Gwyliwch y ci!
Edrychwch ar y PDF am fanylion llwybr byrrach a dolenni ychwanegol.
Mwy o fanylion
Diwrnodau Allan WWO 1: O amgylch Church Stretton
Mwynhewch daith o amgylch y dref farchnad Edwardaidd hon, a hynny trwy Rectory Wood i ddyffryn Carding Mill. Caniatewch ddwy awr ar gyfer y daith gerdded hon a digon o amser i grwydro'r dref.
Mwy o fanylion
Diwrnodau Allan WWO 2: O amgylch Craven Arms
Darganfyddwch gyfrinachau a pherlau cudd Craven Arms. Caniatewch dair i bedair awr ar gyfer taith gerdded hamddenol ar hyd afon Onny i Gastell Stokesay.
Mwy o fanylion
Diwrnodau Allan WWO 3: O amgylch Llwydlo
Mae Llwydlo’n cynnig diwrnod allan braf i’r teulu cyfan, gyda digon o bethau i’ch cadw’n brysur. Mae’r daflen hon yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau’r dref, gan gynnwys taith gerdded hamddenol ar hyd afon Tefeidiad lle gellir gweld mannau hanesyddol, pensaernïol a daearegol o ddiddorol; a’r dewis o daith gerdded hirach i Bromfield.
Gweler y PDF am lwybr hirach.
Mwy o fanylion
Diwrnodau Allan WWO 4: O amgylch Bishop’s Castle
Bu’r dref hon ar un adeg yn 'fwrdeistref bwdr' ond erbyn hyn mae’n dref farchnad hanesyddol lewyrchus; mwynhewch ddiwrnod allan yn amsugno’r awyrgylch ac yn crwydro’r adeiladau hanesyddol a’r ardal wledig brydferth.
Mwy o fanylion
Dringwch i gyrion y Deyrnas - 8.5 Milltir, taith gerdded Bryn Cwm-sanaham
Yn agos at Drefyclo, ar gyrion teyrnas Offa, mae’r daith gerdded heriol hon yn cyrraedd y Clawdd ar ei mwyaf trawiadol. Os nad yw hynny'n ddigon ynddo’i hun, mae'n sicr bod yr olygfa’n fwy na digon o wobr. Yn awyr glir y gwanwyn mae mynyddoedd Cymru gyda’u copaon dan eira yn disgleirio ar y gorwel. O dan eich traed, mae rhagfuriau castellog traphont Cnwclas yn eich atgoffa amddiffynfeydd chwedlonol Castell Arthuraidd Cnwclas.
Mae llwybr byrrach i’w weld yn y PDF isod
Mwy o fanylion
Dwyrain Trefaldwyn - 3 Milltir, Cymhedrol
Mae'r daith gylchol hon gyda’i golygfeydd gwych yn eich harwain trwy dir amaethyddol dwyrain Trefaldwyn, o weddillion ffermio crib a rhych o'r canol oesoedd i goedwig Boardyhall, heibio lodge Lymore ac adeiladau fferm. Mae'r llwybr yn mynd â chi trwy ystâd Lymore ac ar ran o Lwybr Clawdd Offa.
Mwy o fanylion
Heic Hoffman - 3 Milltir, Llanymynech
Daw’r enw ‘Heic Hoffman’ o Odyn Hoffman, un o ddim ond tair odyn galch o’r 20fed ganrif sydd ar ôl ym Mhrydain. Mae’r odyn, y simnai a bryn arbennig Llanymynech yn gefndir i olygfeydd hyfryd o’r dirwedd, y dreftadaeth ddiwylliannol a chynefinoedd bywyd gwyllt.
Gweler y PDF isod am lwybrau byrrach
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Cefn Gwlad Llanandras
Mae’r daith gylchol hir hyfryd hon yn eich tywys drwy gefn gwlad prydferth Llanandras. Mae gan y daith gymaint i’w chynnig, o gastell cloddwaith canoloesol yn y coed i fferm gwningod ôl-ganoloesol.
Pellter: 16.2km
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Dwyrain Trefaldwyn
Mae'r daith gylchol hon gyda’i golygfeydd gwych yn eich harwain trwy dir amaethyddol dwyrain Trefaldwyn, o weddillion ffermio crib a rhych o'r canol oesoedd i goedwig Boardyhall, heibio lodge Lymore ac adeiladau fferm y presennol.
Pellter: 5km
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Gorllewin Trefaldwyn
Mae’r daith gylchol hyfryd hon yn eich tywys drwy ddarn diddorol o gefn gwlad i’r gorllewin o Drefaldwyn, ar hyd olion castell a thrwy goetiroedd hardd.
Pellter: 2.5km
I gael rhagor o Wybodaeth Archeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Llanymynech
Mae’r daith gylchol brydferth hon yn eich tywys drwy gefn gwlad Llanymynech, gan fynd â cherddwyr ar hyd camlas, ger olion bryngaer a thrwy gwrs golff.
Pellter: 6.6km.
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Maesyfed
Dyma daith gerdded gylchol hyfryd sy’n mynd â chi drwy bentref bach Maesyfed. Mae’r daith gerdded odidog hon yn pasio fferm sy’n dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif ac adeiladau hanesyddol eraill, gan gynnwys eglwysi a mwnt a beili.
Pellter: 1.6km
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Taith Fer Llanymynech
Mae’r daith gylchol fer hyfryd hon yn mynd â chi drwy Ganolfan Treftadaeth Gwaith Calch Llanymynech. Yna, ymlaen i olygfan ar Greigiau Llanymynech lle ceir golygfeydd hardd o’r ardal wledig.
Pellter: 4km
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Tref Llanandras
Mae’r daith gerdded gylchol hanesyddol hon yn eich tywys drwy dref Llanandras, o’r plasty canoloesol i Eglwys Sant Andras. Mae’r eglwys hon yn cynnwys rhywfaint o waith maen Sacsonaidd o’r 10fed ganrif, corff yr eglwys a bedyddfaen sy’n dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif a thapestri o’r 16eg ganrif.
Pellter: 2.3km
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Trefyclo
Mae’r daith gylchol ddiddorol hon yn eich tywys drwy Drefyclo, heibio holl dai hanesyddol y dref - gyda rhai ohonyn nhw’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif.
Pellter: 2km
I gael rhagor o Wybodaeth Archaeolegol am y dref hon gan gynnwys map gydag awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Mapiau CPAT
Mwy o fanylion
Irresistible Offa: Yr Ystog
Dyma daith gylchol hyfryd fydd yn mynd â chi drwy gefn gwlad prydferth yr Ystog, drwy goetiroedd a gwarchodfeydd natur a gall cerddwyr weld popeth o weddillion y fryngaer o’r Oes Haearn i’r chwarel a’r mwynglawdd ger Bryn Todleth.
Pellter: 8.8km
I gael rhagor o wybodaeth archaeolegol am y dref hon, gan gynnwys map sy’n cynnwys awgrymiadau rhyngweithiol cliciwch ar y ddolen: Papiau CPAT
Mwy o fanylion
Llwybr Cylchol Sir Fynwy 26 - Llanwytherin i Langatwg Lingoed
Taith gerdded gylchol 5.8 milltir o hyd sy’n cynnwys Llwybr Clawdd Offa o Lanwytherin i Langatwg Lingoed. Yna, mae’n dychwelyd trwy dir amaethyddol bryniog ac ar hyd traciau hynafol o gwmpas fferm Tump. Ceir rhai camfeydd a sawl darn serth. Gall fod yn fwdlyd pan fydd y tywydd yn wlyb.
Mwy o fanylion
Llwybr Cylchol y Waun a Cheiriog
Manylion y llwybr
Llwybrau dymunol drwy gaeau tir fferm, lonydd gwledig a llwybrau coetir, gan ddychwelyd ar hyd afon tuag at y dref o dan draphont ddŵr fawreddog. Cymerwch seibiant am ychydig o luniaeth ar y ffordd yng Nghastell y Waun, neu tarwch heibio’r lle arbennig hwn, sy’n un o drysorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyn neu ar ôl eich taith gerdded.
Pellter hir: 6.3 milltir / 10 km
canolig: 6.7 milltir / 10.7 km
byr: 5.3 milltir / 8.5 km (1 Ebrill – 30 Medi yn unig)
Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn: SJ 28737 37540
What Three Words: https://w3w.co/habit.unwound.flattered
Man cychwyn
Ar ôl profi hyfrydwch Caffi Wylfa, gadewch drwy droi i'r dde i Castle Road a disgyn tuag at lwybr y gamlas ychydig cyn y gylchfan. Hedwch am ysbaid dros Ddyfrbont y Waun cyn troi'n ôl a phlymio i dywyllwch Twnnel y Waun sy’n 421m o hyd. Gan ddychwelyd i olau dydd, gadewch lwybr y gamlas i fyny a thros y bont i'r coetir gyferbyn, gan ymlwybro drwy fyrdd o lwybrau sy'n arwain drwy borth i lwybr drwy ganol y cae tuag at y ffordd. (1) Yma mae eich taith yn ymrannu, gan fynd i'r dde ar hyd y ffordd ar gyfer y llwybr hir ac yn syth ymlaen i barcdir glaswelltog Castell y Waun ar gyfer y llwybrau byr a chanolig.
Os ydych yn cymryd y llwybr hirach â’r golygfeydd, parhewch ar hyd y ffordd nes ei bod yn gwyro i'r chwith lle mae arwyddbost yn arwain eich camau tuag at y dde lle byddwch yn mynd drwy ddau gae cyn croesi lôn wledig. Gan gyrraedd tir ffermio llaeth ewch ar letraws, y tu hwnt i ochr dde'r fferm, i gymryd trac cerrig a dilynwch hwn nes ei fod yn cwrdd â'r groesffordd groesgam. Ewch ymlaen, gan droedio cyrion parcdiroedd, lle mae'r castell yn sefyll yn falch ar ei dwmpath amlwg ac mae eich taith yn cyd-fynd â Llwybr Clawdd Offa.
Dilynwch arwyddbyst y Llwybr Cenedlaethol, gan adael y ffordd wrth y gornel, i fyny a thros ben ael y bryn cyn disgyn drwy gysgod y coetir, ar hyd lôn gerrig a chan basio anheddau sy’n glynu at ochr y bryn. Gan ddisgyn i'r ffordd, parhewch ymlaen dros bont a dringfa fer cyn troi i'r chwith wrth y cyffordd lle byddwch yn gadael Llwybr Clawdd Offa ac yn ailymuno â’ch taith ar hyd Llwybr Maelor cyn belled â Bronygarth.
Wrth nesáu at ben pellaf y pentref a mynd dros y bont gerrig, anelwch i lawr i bant Coedwig Pentre lle mae carped garlleg gwyllt yn goglais eich ffroenau ac yn gorchuddio llawr y coetir. Gan ddisgyn tuag at yr afon byddwch chi'n gadael y swyn a'r llif ar hyd y glannau, gan oedi am orig i groesi'r bont a chymryd y llwybr ag arwyddbyst i'r cae ar y dde i rodio wrth ochr yr afon, gan fynd o dan gamp beirianyddol y ddyfrbont wrth iddi godi yn uchel uwch eich pen. Gan adael y cae croeswch y ffordd, gan gymryd y llwybr glaswelltog ychydig i'ch ochr chwith i ddringo uwchben yr afon, gan gyrraedd y dref a theithio ar hyd Castle Street i ddychwelyd i’r man cychwyn.
Os byddwch yn cerdded i'r parcdiroedd ar y llwybrau byrrach, dilynwch y llwybr ag arwyddbyst gwyrdd yn uniongyrchol ymlaen am bellter byr, gan wyro i'r dde wrth y postyn marcio nesaf ac ar letraws ar draws y cae i’r giât yn y gornel. Yma ymunwch â’r llwybr glas lle byddwch yn gwneud tro pedol, bron, ar hyd llwybr poblogaidd ac i mewn i'r coetir drwy giât bren lle bydd golau tyner yr haul yn eich cynhesu drwy’r dail.
Yn fuan cyn diwedd y goedwig dilynwch y llwybr i'r dde am bellter byr, ewch drwy giât ac ewch ar y llwybr graean i'r dde, gan ymlwybro o amgylch cyrion y caeau a choetir Parc y Ceirw i'r chwith. Mae'r llwybr yn arwain y ffordd tuag at y castell, gan wau drwy'r coetir wrth iddo ddirwyn ei daith uwchben y ffordd. Wrth nesáu at y castell lle mae tyrrau’n hofran uwchben, disgynnwch tuag at y maes parcio. Ar waelod mynedfa'r castell mae eich llwybr yn rhannu (2), drwy'r giât ar gyfer mynediad tymhorol i lwybr byr yr haf neu drwy'r maes parcio ar gyfer y llwybr pellter canolig drwy'r flwyddyn.
Llwybr byr – gan fynd drwy'r giât dilynwch y trac, i lawr tuag at y porth i gerddwyr ac ymlaen i'r cae cyn ymuno â llwybr coetir serth sy'n cwrdd â'r ffordd lle mae'n ailgysylltu â'r llwybrau eraill (4)
Llwybr canolig – o'r maes parcio cadwch at linell y ffens ac ewch ymlaen, ar hyd y llwybr coch, ar draws parcdir cyn cwrdd â Llwybr Clawdd Offa wrth iddo gyrraedd y ffordd ac ymuno â'r llwybr hir (3).
Nodiadau/cludiant i'r dechrau
Parcio
Lle arcio ar gael yng Nghaffi Wylfa, neu leoedd parcio ar ochr y ffordd gerllaw.
Bws
Amherthnasol
Trên
Mae gorsaf drenau'r Waun bum munud o'r caffi ar droed. Fel arall, gellir cwrdd â'r teithiau cerdded wrth allanfa Twnnel y Waun sydd wrth ymyl y rheilffordd.
Cyffredinol
Mae Caffi Wylfa, sy’n gaffi cymunedol, yn darparu'r lleoliad perffaith i ddechrau/gorffen eich taith, beth bynnag fo'r tywydd.
Mwy o fanylion
Llwybr Hanes Llangollen
Mae Llwybr Hanes Llangollen yn daith drawiadol chwe milltir o hyd. Mae’n cychwyn yn Llangollen ac yn ymweld â sawl lleoliad hanesyddol o bwys - fel Rhaeadr y Bedol. Gall rhai darnau o’r Llwybr fod yn heriol gyda chamfeydd, gatiau mochyn a grisiau serth. Yn enwog am y bryniau cyfagos ac afon Dyfrydwy, mae gan Langollen rywbeth i’w gynnig i bob ymwelydd. Mae digon o lefydd i fwyta, yfed ac aros sy’n addas ar gyfer pob cyllideb. Cewch fynd am dro ar hyd Promenâd Fictoria i Barc Glan yr Afon am bicnic neu i wylio’r afon yn llifo o dan y bont. Dyma ganolfan wych ar gyfer archwilio’r ardal ac mae Llwybr Hanes Llangollen yn un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn.
Gallwch weld y llwybr ar ViewRanger neu ewch i Dee Valley Walks am gyfarwyddiadau’r llwybr.
Ewch i wefan Croeso Cymru am ragor o wybodaeth neu syniadau eraill am deithiau cerdded gwych a phethau eraill i’w gwneud yng Nghymru.
Mwy o fanylion
Llwybrau Cylchol Sir Fynwy 20 - Llandeilo Gresynni i'r Castell Gwyn
Taith gerdded gylchol 5 milltir o hyd rhwng Llandeilo Gresynni a'r Castell Gwyn, gan ddefnyddio rhannau o Daith Gerdded y Tri Chastell a Llwybr Clawdd Offa. Caeau, traciau a lonydd gyda rhai camfeydd a llethrau. Mae tafarn Hogs Head ar y llwybr.
Mwy o fanylion
Newcastle - 8.75 Milltir, Taith Gerdded Newcastle on Clun
Dylai’r enw Newcastle on Clun ddweud y cyfan sydd angen ei wybod am y dyffryn hwn. Mae llaw orchfygol yr arglwyddi Normanaidd a reolai’r coridor hwn i mewn i berfeddwlad Cymru yn amlwg. Ond beth am Offa? Roedd y Clawdd bygythiol ar draws y Clun yn nodi ei fwriadau tiriogaethol; Fi yw brenin Mercia, peidiwch â’m herio i. Efallai bod ffermio yn y dyffryn wedi dileu croesfan y clawdd, ond mae tomen y Fron wedi goroesi. Mae ei wreiddiau'n dyddio’n ôl i gyfnod mwy na mil o flynyddoedd cyn Offa hyd yn oed.
Gweler y PDF ar gyfer llwybrau byrrach
Mwy o fanylion
Offa Hoppa 1: Walton i Geintun
Taith gerdded linol, gymhedrol sy’n 5.5 milltir o hyd. Mae un ddringfa galed i fyny i Gefn Hergest, sy’n fyw o chwedloniaeth a sydd â golygfeydd gwych oddi yno. Caniatewch 3 awr.
Mwy o fanylion
Offa Hoppa 2: Titley i Geintun
Dyma daith gerdded linol sy’n 5.5 milltir o hyd ac yn cynnwys rhywfaint o ddringo. Mae’n arwain i Rushock Hill lle ceir golygfeydd godidog ar draws Swydd Henffordd a Chymru. Mae’r darn cyntaf ar Lwybr Mortimer, a cheir arwyddbyst gwyrdd a gwyn yn aml i’ch helpu. Mae’r darn olaf ar Lwybr Clawdd Offa lle ceir arwyddbyst mesen (Llwybr Cenedlaethol) i’ch cynorthwyo. Caniatewch 3 awr.
Mwy o fanylion
Offa Hoppa 3: Llanandras i Geintun
Llwybr cerdded llinol, egnïol sy’n 9.5 milltir o hyd ar lwybrau ceffylau a lonydd tawel i Lwybr Clawdd Offa. Yna, dringfa serth dros fryn Herrock, ar draws bryniau Rushock a Bradnor ac i lawr i Geintun.
Mwy o fanylion
Offa Hoppa 4: Norton i Drefyclo
Taith gerdded gymhedrol, 5 milltir o hyd, trwy gefn gwlad bryniog ac wrth ymyl rhai o'r darnau gorau o’r clawdd a’r cloddweithiau. Mae’r llwybr yn dringo’n raddol allan o Norton; ac mae’n disgyn yn weddol serth i Drefyclo.
Mwy o fanylion
Offa Hoppa 5: Cnwclas i Drefyclo
Llwybr cymhedrol 5 milltir o hyd o Gnwclas i Drefyclo, gyda dringfa gyson i Fryn Bailey i gwrdd â Ffordd Glyndŵr sy’n mynd trwy fynydd-dir a thrwy hen ran o Drefyclo i’r Narrows ac at Dŵr y Cloc.
Mwy o fanylion
Offa Hoppa 6: Five Turnings i Drefyclo
Taith gerdded 3 milltir o hyd ger Clawdd Offa a thrwy Goed Kinsley. Dyma ffordd wych i brofi Llwybr Clawdd Offa heb ddringfeydd egnïol. Ond bydd angen esgidiau cadarn arnoch ar gyfer y darnau o’r llwybr sy’n mynd ar i lawr. Mae rhai ohonyn nhw’n serth.
Mwy o fanylion
Rail2Trail Cas-gwent i Sedbury ac yn ôl
Taith gerdded o Gas-gwent i Tutshill ac ymlaen i derfynfa ddeheuol Llwybr Clawdd Offa ger Sedbury.
Pellter: 5.3 milltir / 8.5 km
Man cychwyn: Gorsaf drenau Cas-gwent
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: ST 53641 93689
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: cofnodwn.affaith.disgrifiad
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol Bryniau Prestatyn
Taith gerdded sy’n dilyn Llwybr Prestatyn–Dyserth ac ym ymweld â therfyn gogleddol Llwybr Clawdd Offa. Gellir gwneud taith gerdded estynedig i Raeadr Dyserth.
Pellter: 6milltir / 9.7 km (gydag estyniad o 2.2 milltir / 3.5km)
Man cychwyn: Gorsaf drenau Prestatyn
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: SJ 06417 83079
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: ychydig.adolygaf.bricyll
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol Cas-gwent i Dyndyrn
Taith gerdded o Gas-gwent a’i chastell braf ar hyd Llwybr Dyffryn Gwy i Dyndyrn a’i hadfeilion abaty, gan ddychwelyd ar hyd Llwybr Clawdd Offa.
Pellter: 13 milltir / 21 km
Man cychwyn: Gorsaf drenau Cas-gwent
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: ST 53641 93689
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: cofnodwn.affaith.disgrifiad
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol Trefyclo a Norton
Taith gerdded o Drefyclo ar hyd ffyrdd gwledig i Norton, gan ddychwelyd ar hyd darn gwych o Lwybr Clawdd Offa.
Pellter: 9.3 milltir / 15 km
Man cychwyn: Gorsaf drenau Trefyclo
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: SO 29057 72393
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: poteli.dynameg.hawster
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol Trefyclo i Stowe
Taith gerdded ar hyd rhan o Lwybr Clawdd Offa a Llwybr Rheilffordd Calon Cymru uwchben Trefyclo.
Pellter: 6.8 milltir / 11 km
Man cychwyn: Gorsaf drenau Trefyclo
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: SO 29057 72393
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: poteli.dynameg.hawster
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol y Trallwng
Taith gerdded ar hyd Camlas Maldwyn, ac yna darn o Lwybr Clawdd Offa dros y Mynydd Hir.
Pellter: 8 milltir / 13 km
Man cychwyn: Yr Hen Orsaf, gorsaf drenau’r Trallwng
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: SJ 22911 07201
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: teigrod.cydiaf.ymroddiad
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol y Waun 1
Taith gerdded yn archwilio ystad ysblennydd o amgylch Castell y Waun, gan gynnwys rhan o Glawdd Offa na welir yn aml. (Sylwer bod y llwybr hwn yn dilyn llwybr na ellir ond ei ddefnyddio rhwng mis Ebrill a mis Medi.)
Pellter: 5.6 milltir / 9 km
Man cychwyn: Gorsaf drenau’r Waun
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: SJ 28464 37801
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: odrif.crefftwr.ariannol
Mwy o fanylion
Rail2Trail Taith Gylchol y Waun 2
Taith gerdded y tu allan i’r ystad o amgylch Castell y Waun, gydag opsiwn i ymweld â’r castell o ddarn o Lwybr Clawdd Offa, gan orffen gyda thraphont a thraphont ddŵr go arbennig.
Pellter: 6.6 milltir / 10.6 km (gydag estyniad o 1 milltir / 1.6 km)
Man cychwyn: Gorsaf drenau’r Waun
Cyfeirnod grid y
man cychwyn: SJ 28464 37801
Disgrifiad what3words
y man cychwyn: odrif.crefftwr.ariannol
Mwy o fanylion
Taith Gerdded Graigfechan, 5.8 milltir
Taith gerdded gylchol o bentref Graigfechan sy’n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac sy’n cynnwys golygfeydd o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt.
Mwy o fanylion
Taith gerdded gylchol Ardd-lin 3
Mae’r daith hon yn mynd â chi ar hyd llwybr cylchol sy’n cysylltu llwybr y gamlas â llwybrau troed nodedig yn yr ardal hon. Ewch i gyfeiriad y gogledd ar hyd Camlas Maldwyn o Ardd-lin i Four Crosses. Oddi yma, ymunwch â Llwybr Clawdd Offa, gan fynd i gyfeiriad y de trwy dir fferm agored er mwyn ymuno â Llwybr Hafren. Ailymunwch â llwybr y gamlas yng Nghei’r Trallwng a heibio i Lociau Burgedin cyn dod i Ardd-lin.
• Taith lawn 11.5 milltir / 18.5km
• Taith fyrrach trwy Gei’r Trallwng: 7.5 milltir / 12km
• Taith fyrrach trwy Four Crosses: 7 milltir / 11.2km
Mwy o fanylion
Taith gerdded gylchol y Waun ac Afon Ceiriog
Mae’r llwybr 6.5 milltir hwn yn cychwyn ger yr Orsaf Drenau (cyfeirnod grid SJ 285 378) ac yn cysylltu’r Waun â Chastell y Waun, Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac afon Ceiriog.
Mae’r daith yn mynd â chi drwy nifer o ardaloedd prydferth, gan ei gwneud yn daith werth chweil a phleserus ym mhob tymor.
Dylid nodi y gallai’r llwybr hwn fod yn fwdlyd mewn mannau, felly dylech wisgo esgidiau addas. Mae yna hefyd gamfeydd, llethrau serth a ffyrdd prysur. Nid yw'r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, bygis na phlant bach.
Nodwch - rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth, bydd angen i chi ddefnyddio’r llwybr amgen sy’n osgoi Castell y Waun.
Parcio
Prin yw’r llefydd parcio ar y stryd ger yr Orsaf Drenau.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae gwasanaethau rheolaidd ar gael ar gychwyn y daith gerdded hon. Cysylltwch â 01978 266166 i gael gwybodaeth am fysiau, neu edrychwch ar ein amserlenni bysiau ar lein.
Map
Mae Mapiau Arolwg Ordnans 255 a 256 yn dangos yr ardal, ond dim ond y darn sydd i’w weld yma fydd ei angen arnoch ar gyfer y daith gerdded.
Mwy o fanylion
Taith Gylchol Sir Fynwy 18 - Trefynwy i King’s Wood
Taith gerdded 6 milltir o hyd o Drefynwy i King’s Wood, gan ddefnyddio darn o Lwybr Clawdd Offa, cyn dychwelyd trwy goetir a chaeau. Mae rhai darnau serth a chamfeydd.
Mwy o fanylion
Taith gylchol Trotian a Throedio Llanddingad i’w cherdded, ei seiclo neu ei marchogaeth.
Dewch i grwydro cefn gwlad Sir Fynwy ar droed, ar gefn ceffyl neu ar gefn beic mynydd. Bydd yn ddiwrnod gwych i’r teulu.
Cewch fwynhau golygfeydd trawiadol i gyfeiriad y Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog, a chadwch olwg am fywyd gwyllt bendigedig. Cewch hefyd ddarganfod treftadaeth gudd ar y Llwybr Trotian a Throedio sy’n 5.5 milltir o hyd.
Mae Treowen yn dŷ bendigedig sy’n dyddio’n ôl i 1627. Dyma dŷ - y talaf yn Sir Fynwy o bosib - y dylid ymweld ag ef ar y llwybr. Heb os nac oni bai, mae’n lleoliad o bwys yn y dirwedd.
Mwynhau ymweld â chestyll? Beth am alw heibio i adfeilion Castell Llanddingad, un o’r 400 a rhagor o gestyll yng Nghymru. Lawrlwythwch y Llwybrau Trotian a Throedio am brofiad rhyngweithiol gwych i’r teulu cyfan, neu fe allwch weld y llwybr ar Viewranger.
Ewch i wefan Croeso Cymru am ragor o wybodaeth ac am syniadau eraill am deithiau cerdded gwych a phethau eraill i’w gwneud yng Nghymru.
Mwy o fanylion
Taith Hanes Llangynhafal Hendrerwydd, Llwybr Glas - 4.8 Milltir
Dewis o lwybrau cylchol diddorol sy’n cynnwys Dyffryn Clwyd, Parc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’r llwybrau’n mynd heibio i nifer o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys safleoedd wyth o hen dai fferm, ffynnon sanctaidd hudolus a’r hynod Eglwys Sant Cynhafal.
Mwy o fanylion
Taith Tŵr a Rhagfuriau - Taith gerdded 7 milltir o Sylatyn i Fronygarth.
Mae’r daith hon drwy hanes yn cychwyn gyda chylch cerrig o’r Oes Efydd, Tŵr Fictorianaidd a thŵr gwylio o’r Ail Ryfel Byd ar Fryn Sylatyn. Does fawr o fannau ar hyd yr 80 milltir, ble mae clawdd pridd a ffos lydan Clawdd Offa i’w gweld mor drawiadol. Dim ond yr olygfa bell o Gastell y Waun o’r 14eg ganrif sy’n cystal.
Gweler y PDF isod am lwybr byrrach
Mwy o fanylion
Taith Tŵr a Rhagfuriau - Taith gerdded 7 Milltir o Sylatyn i Fronygarth.
Mae’r daith hon drwy hanes yn cychwyn gyda chylch cerrig o’r Oes Efydd, Tŵr Fictorianaidd a thŵr gwylio o’r Ail Ryfel Byd ar Fryn Sylatyn. Does fawr o fannau ar hyd yr 80 milltir, ble mae clawdd pridd a ffos lydan Clawdd Offa i’w gweld mor drawiadol ag yma. Dim ond yr olygfa bell o Gastell y Waun o’r 14eg ganrif sydd gystal.
Gweler y PDF isod am lwybr byrrach
Mwy o fanylion
Teithiau Cerdded Cylchol Sir Fynwy 9 - Mynwy i Redbrook
Taith gerdded 6.3 milltir ar hyd Llwybr Clawdd Offa o Fynwy i Redbrook, gan ddychwelyd ar hyd Afon Gwy ar Daith Gerdded Dyffryn Gwy. Mae esgyniad serth i Deml y Llynges yn y Cymin.
Mwy o fanylion
Teithiau cerdded o amgylch Parc Gwledig Tŷ Mawr
Parc Gwledig Tŷ Mawr
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau afon Dyfrdwy yn nyffryn hyfryd Llangollen. Mae’n rhan o Fryniau Clwyd ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy.
Mae Tŷ Mawr yn cynnig holl hwyl y fferm mewn lleoliad rhagorol o dan fwâu Traphont Cefn Mawr. Cewch gwrdd â llu o anifeiliaid, fel asynnod, moch a geifr, yn Nhŷ Mawr a chewch hyd yn oed fwydo’r ieir a’r hwyaid sy’n crwydro’n rhydd ar hyd y buarth neu oedi i edmygu Carlos a Pedro’r lamas, sy’n gwarchod ein defaid rhag llwynogod!
Dydyn ni ddim yn defnyddio cemegau na phlaladdwyr yn Nhŷ Mawr. Dyna pam y mae gennym gyfoeth o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt, ac yn nhymor yr haf mae’n dolydd gwair traddodiadol yn llawn lliw. Beth am fynd am dro i lawr at yr afon, i eistedd ac ymlacio - efallai y gwelwch chi eog yn neidio o’r dŵr!
Ceir rhai o’r golygfeydd gorau yn yr ardal yn Nhŷ Mawr, sydd ar lannau afon Dyfrdwy ac yng nghysgod traphont ddramatig Cefn Mawr.
P’un ai eich bod yn dod yma i edmygu’r olygfa, i weld anifeiliaid y fferm neu i fynd am dro, gallwch ddod â phicnic a mwynhau diwrnod gwych i’r teulu ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr.
Teithiau Cerdded o amgylch Tŷ Mawr
Beth am fynd am dro hirach ar hyd glan yr afon i Draphont Ddŵr Pontcysyllte, a gafodd ei henwi’n ddiweddar yn Safle Treftadaeth y Byd. Gallwch fynd ar hyd Llwybr Treftadaeth Cefn Mawr, neu gysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae’r teithiau cerdded yn Nhŷ Mawr ac mewn rhai parciau eraill wedi cael eu mapio yn ôl y calorïau y byddwch yn eu llosgi ar y teithiau. Mae’r wybodaeth hon ar y map wrth i chi fynd i mewn i’r parc neu ar gael i’w lawrlwytho.
Digwyddiadau
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn darparu Digwyddiadau ar gyfer oedolion a phlant drwy gydol y flwyddyn. Gallwch weld neu lawrlwytho copi o’n rhaglen ddigwyddiadau.
Yr Ysgubor Newydd
Cafodd yr Ysgubor Newydd yn Nhŷ Mawr ei hailwampio’n ddiweddar ac erbyn hyn mae’n gyfleuster rhagorol o fewn y parc. Defnyddir yr ystafelloedd yn rheolaidd gan grwpiau ysgolion ar gyfer addysg amgylcheddol, ac ar gyfer digwyddiadau’r parc. Gellir hefyd eu llogi ar gyfer partïon pen-blwydd plant a’u defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau cymunedol eraill. Am fanylion pellach, cysylltwch â Thŷ Mawr ar 01978 822780, e-bostiwch tymawr@wrexham.gov.uk.
Mwy o fanylion
Teithiau Hanes Llangynhafal a Hendrerwydd, Llwybr Coch - 4.3 Milltir
Dyma ddewis o lwybrau cylchol diddorol sy’n cynnwys Dyffryn Clwyd, Parc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’r llwybrau’n mynd heibio i nifer o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys safleoedd wyth o hen dai fferm, ffynnon sanctaidd hudolus a’r hynod Eglwys Sant Cynhafal.
Mwy o fanylion
WWO 1: Chwareli a Choetiroedd, 4.5 Milltir, Pontesbury
Taith gerdded gymedrol pedair milltir a hanner trwy goetiroedd a lonydd gwledig tawel, gydag un ddringfa serth. Caniatewch ddwy i dair awr. 6 camfa.
Mwy o fanylion
WWO 10: Y Gigfran a’r Ehedydd, 6 Milltir, Bucknell a Stowe Hill
Taith hamddenol, chwe milltir ar laswelltir, traciau coedwig a ffyrdd bychain, sy’n cymryd tua thair awr.
Mwy o fanylion
WWO 11: Clawdd Offa a chopa'r byd, 9.5 Milltir, Bucknell
Taith gerdded linol, fryniog, naw milltir a hanner, gyda golygfeydd godidog ar hyd pen y bryniau rhwng Trefclo a Bucknell sy’n cymryd tua phum awr. 10+ camfa.
Mwy o fanylion
WWO 12: Glan yr Afon a Dyfrgwn, 5 Milltir, Redlake a Teme
Taith gerdded linol hawdd, wastad, bum milltir ar hyd Afonydd Redlake a Teme rhwng Bucknell a Leintwardine sy’n cymryd tua dwy awr a hanner. 5 Camfa.
Mwy o fanylion
WWO 13 ‘Y Tir Diffaith’ yng nghysgod ‘Cadair y Diafol’, 5.5 Milltir, The Bog a Stiperstones
Taith gerdded 5.5 milltir o hyd ar hyd ymyl y Stiperstones trawiadol, ac yna cerdded hawdd ar draws dyffryn sy’n llawn olion mwyngloddio. Mae’r daith yn cymryd 2 i 3 awr.
Mwy o fanylion
WWO 14 Coedwigoedd a Diwydiant, 7 Milltir, Pontesbury
Taith gerdded saith milltir i fyny trwy goetir a choedwig, heibio i hen weddillion diwydiannol ac yn ôl yn raddol ar hyd dolydd wrth ymyl Minsterley Brook. Mae’r daith yn cymryd 3.5 i 4.5 awr.
Mwy o fanylion
WWO 16: Dilyn traciau hynafol fyny fry ar Cothercott Hill, 4.5 Milltir, Picklescott
Taith gerdded bedair milltir a hanner sy’n dringo’n gyson i fyny i Cothercott Hill lle mae golygfeydd hyfryd, yna ar hyd priffordd hynafol. Mae’r daith yn cymryd dwy i dair awr.
Mwy o fanylion
WWO 17: ‘Battlestones’ a ‘Sharpstones’, 4.5 Milltir, Cardington Moor.
Taith gerdded sy’n bedair milltir a hanner dros dir bryniog gyda golygfeydd gwych. Mae’n cymryd 3 i 4 awr.
Mwy o fanylion
WWO 18: Wenlock Edge a ffermdir Ape Dale, 4.5 Milltir, Wenlock Edge
Taith gerdded 4.5 milltir o hyd gyda dringo cyson i fyny i Wenlock Edge ac ar hyd y grib goediog uwchben Ape Dale. Mae’r daith yn cymryd 2 i 3 awr.
Mwy o fanylion
WWO 2: Pathewod ac Archangylion, 4 Milltir, Hope Valley
Taith hamddenol, bedair milltir ar dir fferm a thrwy goetir sy’n cymryd dwy i dair awr. 14 camfa.
Mwy o fanylion
WWO 3: Llonyddwch a chopaon coed, 4 Milltir, Bromlow Callow
Taith gerdded heriol, bedair milltir ar laswelltir a lonydd tawel, heibio Bromlow Callow a chaer Castle Ring, sy’n cymryd tua dwy i dair awr. 15 camfa.
Mwy o fanylion
WWO 4: Y Barcud a’r Gylfinir, 4.5 Milltir, Prolley Moor
Taith hamddenol, bedair milltir a hanner dros gaeau a lonydd tawel, gydag un ddringfa serth, sy’n cymryd rhwng dwy a thair awr. 15 camfa.
Mwy o fanylion
WWO 6: Ysgyfarnogod a bwncathod, 6.5 Milltir, Oakeley Mynd
Taith gerdded chwe milltir a hanner gyda dringfeydd cyson o Bishops Castle i Lydbury North, gan groesi Oakeley Mynd. Taith sy’n cymryd tua tair i bedair awr. 15+ o gamfeydd.
Mwy o fanylion
WWO 7: Bryngaerau hynafol a choetiroedd, 6 Milltir, Burry Ditches
Taith gerdded gymhedrol sy’n chwe milltir o hyd ar Ffordd Swydd Amwythig i Bury Ditches. Mae’n cymryd rhwng tair i bedair awr. 4 camfa.
Gweler y PDF am lwybr byrrach
Mwy o fanylion
WWO 8 Gwlad y Gororau a blas o Glawdd Offa, 4 Milltir, Graig Hill.
Taith gerdded 4 milltir o gwmpas llethrau isaf Graig Hill, gyda golygfeydd bendigedig. Mae’r daith yn cymryd tua dwy awr a hanner. 4-5 o gamfeydd
Gweler y PDF am lwybrau eraill.
Mwy o fanylion
WWO 9: Dolydd a choedwigoedd, 5.5 milltir, Darky Dale
Taith gerdded sy’n bum milltir o hyd trwy ddolydd a choedwigoedd, cyn dychwelyd wrth ymyl afon Redlake. Mae’r daith yn cymryd tua thair awr. 6+ o gamfeydd.
Mwy o fanylion