Newyddion o 2024

Cynllun Llysgenhadon Cymru

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn gyfres o gyrsiau ar-lein am ddim i bawb ddysgu mwy am nodweddion arbennig Cymru. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun hwn.

Byddwch hefyd yn dysgu am y Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru sy’n llwybrau pellter hir a ddewiswyd gan Lywodraeth y DU fel rhai sy’n mynd trwy rai o dirweddau gorau’r DU.  Maen nhw i gyd wedi’u harwyddo gan logo’r fesen. Yng Nghymru, y llwybrau hyn yw Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr, lle rydych yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr sawl gwaith ac yn gallu mwynhau rhostir agored, tir fferm tonnog, coetir a choedwig canolbarth Cymru.  Gellir adnabod Llwybr Arfordir Cymru drwy ddilyn y logo ‘draig a chragen’ nodedig ar hyd 870 milltir o arfordir amrywiol Cymru.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae’r cynllun yn ffordd ardderchog o ehangu eich gwybodaeth leol a dod o hyd i’r hyn y mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol yn ei gynnig i bawb.

Byddwch yn darganfod llawer o ffeithiau diddorol am ddiwylliant Cymru, y lleoedd unigryw, y ddaeareg, y bywyd gwyllt y gallwch ddisgwyl ei weld, a’r hanes sy’n gwneud y llwybrau hyn mor unigryw ac arbennig yma yng Nghymru. Gobeithio y byddwch yn cael eich ysbrydoli i fynd allan i fwynhau’r llwybrau cerdded hyn drosoch chi eich hun.

Dyma rai ffeithiau diddorol:

  • Mannau adnabyddus am fywyd gwyllt ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol
  • Safle dinas leiaf Prydain
  • Y pentref gyda’r enw hiraf yn y Deyrnas Unedig
  • Y gwrthryfelwr hanesyddol sy’n rhoi ei enw i un o’r Llwybrau Cenedlaethol
  • Yr heneb hanesyddol a adeiladwyd i wahanu Cymru a Lloegr

Pwy fydd yn elwa o’r cynllun hwn 

Gall pawb elwa ar y cynllun ar-lein hwn sy’n rhad ac am ddim.

Os ydych chi’n berchennog busnes ar y llwybrau hyn neu’n agos atynt, mae’n ffordd ardderchog o rannu’r wybodaeth ydych chi wedi’i dysgu gyda’ch cwsmeriaid.  Mae hefyd yn ffordd hwylus a rhad o gynnwys eich tîm yn y gwaith o helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt a manteisio’n llawn ar eu hymweliad â Chymru.

Os ydych chi’n unigolyn chwilfrydig sydd eisiau gwybod mwy am yr ardal leol, mae’n ffordd ragorol o ddarganfod beth arall sydd i’w weld a’i wneud.

Sut mae’r cynllun yn gweithio

Cofrestrwch â Chynllun Llysgenhadon Cymru am ddim. Gallwch weithio eich ffordd drwy fodiwlau sydd fwyaf lleol i’ch ardal.

Cofrestrwch â Chynllun Llysgenhadon Cymru am ddim

Mae pob modiwl yn gymysgedd o destunau a fideos difyr a delweddau ysbrydoledig gyda llawer o ffeithiau diddorol am yr ardal ydych wedi cofrestru ar ei chyfer. Os hoffech chi wybod mwy am yr ardaloedd cyfagos, gallwch gwblhau’r holl fodiwlau cyfredol sydd ar gael. Mae’r holl fodiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gallwch roi cynnig ar gwis hwyliog ar y diwedd hefyd.

Dewch yn Llysgennad Cymru heddiw a darganfod beth sydd ar eich stepen drws a thu hwnt.

Newyddion o 2023

Pont Gwaith Gwifrau Tyndyrn yn ailagor ar ôl gwaith adnewyddu

Ailagorodd Pont Gwaith Gwifrau Tyndyrn ar 26 Mai 2023 ar ôl bod ar gau am flwyddyn ar gyfer gwaith atgyweirio strwythurol. Roedd y gwaith yn cynnwys ailosod y dec cyfan, tynnu’r hen strwythur pren a rhoi trawstiau dur “llawer ysgafnach” yn ei le a byrddau dec pren ysgafn “haws i’w cynnal”.  Mae’r bont yn gyswllt pwysig iawn ar draws Afon Gwy i gerddwyr a beicwyr, ac mae’n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa a’i olygfan eiconig ym Mhulpud y Diafol, ac i feicwyr mae’n cysylltu â Ffordd Werdd Dyffryn Gwy i Gas-gwent.

Wireworks Bridge at Tintern

Newyddion o 2022

Cyfres deledu Wonders of the Border

Bydd Llwybr Clawdd Offa yn serennu mewn cyfres deledu newydd sy’n cael ei darlledu gan ITV yn ystod mis Ebrill a Mai.

Sean Fletcher TV presenter walking Offa's Dyke Path with hills in the background
Sean Fletcher yn cerdded Llwybr Clawdd Offa

Yn Wonders of the Border bydd cyflwynydd Good Morning Britain a Countryfile Sean Fletcher yn ymweld â mwy na 50 o leoliadau ar hyd y Llwybr Cenedlaethol 177 milltir o hyd ac yn cwrdd â rhai o’r bobl anhygoel sydd wedi ymgartrefu yn y gororau rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar ITV Cymru Wales o 7.30pm nos Iau 15 Ebrill gyda darllediad rhwydwaith o’r gyfres chwe rhan wedi’i gynllunio ar gyfer gwylwyr ITV ledled y DU yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Newyddion o 2021

Yr Athro David Watkins, cyfansoddwr darn newydd ar gyfer Walking with Offa / Cerdded gydag Offa

Dyma un o delynorion gorau’r wlad yn chwarae sonata Gymreig:

 

Music on Offa
20 Mawrth 2021