Llandudoch i Draeth Poppit
Dadorchuddiwyd yr arwyddbost newydd ar gyfer pwynt dechrau/gorffen y llwybr yn Llandudoch ym mis Gorffennaf 2009. Yna mae’r llwybr yn dilyn y ffordd lled llawn a heb balmant. Mae Gwesty’r Webley ger Poppit a’r Ferry Inn yn Llandudoch yn llecynnau poblogaidd gan gerddwyr sy’n dathlu cwblhau Llwybr yr Arfordir. Dilynwch y llwybr oddi ar y ffordd sy’n mynd drwy’r twyni tywod am 600m i’r dwyrain o Poppit. Am resymau sydd wedi hen ddiflannu i niwl y gorffennol, lleolwyd y plac dechrau/gorffen swyddogol gerllaw maes parcio Poppit. Dringfeydd graddol. Golygfeydd ar draws aber Afon Teifi.
Math o gerdded: Hawdd iawn
Mwy o fanylion
Llwybr henebion: Capel Santes Non a Thyddewi
Mae’r llwybr 4.5 milltir hwn o Eglwys Gadeiriol Tyddewi i harbwr cysgodol Porth Clais, heibio i Ffynnon a Chapel Santes Non, yn cynnwys rhai o henebion gorau’r ardal.
Mae Tyddewi, dinas leiaf Cymru, yn gartref i ryw 200 o adeiladau rhestredig. Sefydlwyd y gymuned ar lan Afon Alun gan Dewi, nawddsant Cymru, yn y chweched ganrif. Does dim prinder o dafarndai a mannau bwyta llawn cymeriad yn Nhyddewi a’r pentrefi cyfagos. Mae’r llwybr yn cynnwys llwybrau troed wedi’u palmantu a rhai naturiol, lonydd cefn tawel, ynghyd â llwybrau ceffyl a rhywfaint o gerdded ar ffyrdd llai. Nid oes yr un gamfa ar hyd y darn hwn o’r llwybr, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio cadair olwyn neu fygi.
Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar wefan Croeso Cymru neu edrychwch ar y llwybr ar wefan Viewranger
Mwy o fanylion
Porthstinian/Porth Clais – ymyl clogwyn garw – 6 milltir (9.6km) – darn rhagorol o’r arfordir ar gyfer gweld adar y môr, blodau arfordirol, morloi a llamhidyddion
Mae Cristnogaeth Geltaidd gynnar yn amlwg iawn ar hyd y darn hwn o’r arfordir; cadwch olwg am Gapel a Ffynnon Iwstinian ym Mhorthstinian, sydd hefyd yn gartref i Orsaf y Bad Achub. Yn y gorffennol, harbwr Porth Clais, ger aber Afon Alun, fyddai’r man y byddai nwyddau’n cyrraedd ar gyfer yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi. Mae’r clogwyni a’r slabiau i’r dwyrain o geg yr harbwr yn fan poblogaidd ar gyfer dringo. Mae toiledau yn y maes parcio, a chiosg sy’n gwerthu hufen iâ neu ddarn o gacen yn yr haf.
Mae’r clogwyni o gwmpas Porthstinian yn cael eu cysgodi rhag dannedd y gwynt gan Ynys Dewi, felly, yn ogystal â gweld cyfoeth o flodau gwyllt yn ystod y gwanwyn a’r haf (clustog Fair, sêr y gwanwyn, teim, crafanc y frân, gludlys) gallwch ddisgwyl gweld y ddraenen ddu a llwyni gwyrosydd yn gafael yn sownd wrth y graig. Rhostir morol a glaswelltir yw’r rhan fwyaf o’r tir agored ar ben y clogwyni. Mae morloi llwyd yn magu ar y traethau islaw o ddiwedd mis Awst, er mai ar Ynys Dewi mae’r fridfa fwyaf yn y Parc. Y rheswm bod llif y llanw yn Swnt Dewi a’r Bitches, fel y gelwir yr ardal o ddŵr garw, mor frochus yw bod dyfroedd Môr Iwerddon a Sianel San Siôr yn cyfarfod yma, sydd o fantais i adar y môr a’r llamhidyddion, am ei fod yn achosi i’r pysgod ddod i’r wyneb, sy’n gwneud eu gwaith hela’n hawdd pan fo’r llanw’n gryf. Yn y rhannau corsiog o gwmpas Pwll Trefeiddan chwiliwch am weision y neidr o rywogaethau’r ymerawdwr, y blewog, a’r eurdorchog, a mursennod bach coch a glas Penfro. Mae'r gwalch glas, y bwncath a’r cudyll coch yn magu ymhlith y prysgwydd helyg, ac mae hwyaid gwylltion, chwiwellod a chorhwyaid yn byw ar y pwll dŵr.
Croesewir cŵn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cadw ar dennyn am fod da byw’n pori. Mae perygl hefyd y gallai pobl gael eu bwrw dros y clogwyn, neu gamu oddi arno’n ddamweiniol er mwyn dianc rhag eich ci – nid pawb sy’n hoff o gŵn.
Mwy o fanylion
Traeth Poppit i grid gwartheg Allt-y-coed
Ffordd un-trac, dawel, serth, sy’n cynnig golygfeydd da. Llwybrau sy’n ymuno’n rhoi cyfle i fynd ar lwybrau cylchol i mewn o’r arfordir.
Rhwyddineb y cerdded: Cymedrol
Mwy o fanylion