Llwybr Arfordir Sir Benfro
Disgrifiad o'r Llwybr
Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn llwybr cerdded pellter hir. Mae’r 186 milltir (300km) yn troelli trwy rai o'r golygfeydd arfordirol mwyaf syfrdanol ym Mhrydain. O’r llwybr, sydd bron yn gyfan gwbl o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro - yr unig barc cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain – mae amrywiaeth o flodau ac adar arfordirol i’w gweld, yn ogystal â thystiolaeth o weithgarwch pobl o’r cyfnod Neolithig hyd heddiw.
Llandudoch yw man cychwyn gogleddol y llwybr, ac mae’n gorffen yn Amroth yn y de, gan fynd trwy bron pob math o dirwedd arforol, o bennau clogwyni garw a childraethau cysgodol i draethau agored a
Llandudoch i Drefdraeth 15.5 milltir (25.7km)
Dyma’r rhan fwyaf heriol o Lwybr yr Arfordir, yn 15.5 milltir o hyd gyda nifer o fryniau serth iawn. Does dim gwasanaethau rhwng traethau Poppit a Threfdraeth. Dylai cerddwyr wneud yn siŵr eu bod wedi paratoi’n iawn a bod ganddyn nhw ddigon o fwyd, diod a dillad. Efallai y byddwch eisiau cymryd dau ddiwrnod i gerdded y rhan hon gan gymryd hoe yn Nhrewyddel.
Trefdraeth i Abergwaun 12 milltir (19.3km)
Mae’r clogwyni ar y rhan hon yn is, tua 40m gan fwyaf. Er bod Pen Dinas yn codi i 142m, mae’r llwybr gwastad yn y dyffryn (sydd hefyd yn Llwybr Cenedlaethol) yn osgoi hwn. Mae’r bryniau i fyny at y traethau bach yn serth ond maen nhw’n ddigon gwasgaredig.
Yn Abergwaun chwiliwch am y symbolau cyfeiriadol bychain ar ffurf mesen sydd wedi’u gosod yn uchel ar bolion metel ac arwyddion. Mae’r rhain yn dangos y llwybrau a argymhellir trwy, neu’n agos at, drefi. Chwiliwch hefyd am arwyddion brown gyda symbol y fesen.
Abergwaun i Bwll Deri 9 milltir (14.5km)
Clogwyni o darddiad folcanig rhwng 30m a 70m o uchder gan fwyaf. Clogwyni sy’n llyfngrwn lle mae’r graig yn gryf ac yn galed, ac yn disgyn yn serth iawn lle mae strata gwan. Ychydig o fryniau serth. Yn nodweddiadol o’r rhan hon mae’r brigiadau craig niferus a cherrig folcanig rhydd. Mae grug ac eithin ym mhobman, ac yn wledd o liw ym mis Awst.
Ar hyd y rhan hon fe ddewch chi ar draws cynlluniau pori arfordirol: ceffylau rhwng Pen-caer a Phorthsychan; gwartheg rhwng Wdig a Charregwastad; a defaid yn y canol! Cadwch eich cŵn o dan reolaeth gadarn, os gwelwch yn dda.
Pwll Deri i Borthgain 12 milltir (19.3 Km)
Mae digonedd o glogwyni serth, dramatig i ryfeddu atyn nhw ar y rhan hon lle mae erydu’r arfordir yn broses amlwg. Bob blwyddyn mae Sir Benfro ychydig yn llai nag yr oedd y flwyddyn gynt ac mae’n rhaid adolygu pa ffordd mae Llwybr yr Arfordir yn mynd er mwyn sicrhau diogelwch.
Porthgain i’r Porth Mawr 10 milltir (16.1km)
Rhan gyffrous a garw weithiau o’r llwybr ar ben clogwyni uchel ac o dan frigiadau craig folcanig trawiadol Pen Beri, Carn Lleithyr a Charn Llidi. Cymerwch amser i hamddena ar benrhyn gwyllt a chreigiog Penmaendewi, sy’n llawn archaeoleg. Gwyliwch hefyd am forloi ar y cildraethau creigiog islaw’r llwybr ac am huganod yn plymio i’r môr i ddal pysgod; efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld esgyll dorsal llwyd llamhidyddion yn hela am bysgod o dan yr huganod. Mae’r rhan rhwng Abereiddi a’r Porth Mawr yn teimlo’n wyllt ac yn anghysbell heb yr un adeilad bron i’w weld, sy’n golygu bod y cerddwr blinedig, os yw’n cerdded o’r de i’r gogledd, yn hynod o falch i weld y caffi yn y Porth Mawr neu’r fan fwyd yn Abereiddi!
Y Porth Mawr i Solfach 13 milltir (20.9km)
Mae’r rhan hon yn agos i’r lletyau, siopau ac ati yn Nhyddewi a Solfach. Mae’r nifer fawr o fynedfeydd i’r llwybr a gwasanaeth bws da yn golygu bod hon yn ardal boblogaidd ar gyfer teithiau cerdded byr a chylchol. Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon.
Solfach i Aberllydan 12 milltir (19.3km)
I’r gogledd orllewin o Niwgwl mae yna gyfres o fryniau serth iawn gyda hyd at 100 o risiau. I’r de o Niwgwl mae cyfres o fryniau llai serth wrth i ardaloedd Aberllydan ac Aber-bach dorri ar y llwyfandir. Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon.
Aberllydan i Martin’s Haven 11 milltir (17.7km)
Clogwyni isel trawiadol o goch. Llethrau arfordirol a phennau clogwyni sy’n doreithiog o flodau gwyllt. Mewn mannau mae cochni’r Hen Dywodfaen Coch yn frith o algâu melyn llachar. Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon erbyn hyn.
Martin’s Haven i Dale 10 milltir (16.1km)
Gwaith cerdded gweddol rwydd ar hyd llwyfandir Marloes – Dale, sy’n wastad gan fwyaf gydag ambell lethr byr er mwyn dringo allan o gymoedd eithaf serth a dorrwyd gan ddŵr tawdd rhewlifol ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae hon yn daith llawn gwrthgyferbyniadau, yn dechrau ar arfordir gwyllt a di-goed yr Iwerydd gyda golygfeydd trawiadol o ynysoedd garw Sgomer, Sgogwm a Gwales yn y môr gerllaw, ac yn gorffen yng nghysgod tirwedd fwyn, laswelltog ac weithiau coediog, dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’r rhan hon yn agos i letyau a siopau, tafarnau a chaffis pentrefi Marloes a Dale. Mae’r nifer fawr o fynedfeydd i’r llwybr a gwasanaeth bws ardderchog yn golygu bod hon yn ardal boblogaidd ar gyfer teithiau cerdded byr a chylchol. Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon erbyn hyn.
Dale i Neyland 16 milltir (25.7km)
Edrychwch ar dablau’r llanw i fanteisio ar y ddwy groesfan lanwol er mwyn osgoi dargyfeiriadau hir ar hyd y ffordd. Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon erbyn hyn, ac eithrio un ychydig i’r de o Herbrandston sydd ar y llwybr i’w gymryd pan fydd llanw uchel.
Neyland i Angle 16 milltir (25.7km)
Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhan hon yn y Parc Cenedlaethol gan ei bod yn agos i’r diwydiant sy’n gysylltiedig â’r aber. Eto i gyd mae’r daith yn un ddiddorol iawn ac yn llawn diddordeb hanesyddol, amgylcheddol ac amaethyddol. Mae’n werth cael golwg ar Benfro a’i chastell. Gan ei bod wedi’i chysgodi rhag gwyntoedd y glannau ceir llawer o goetiroedd ar y rhan hon.
Angle i Freshwater West 10 milltir (16.1km)
Mae’r rhan hon yn arw iawn ac ar ôl gadael pentref Angle mae’n cael ei rheoli’n fwriadol er mwyn gwarchod y profiad ‘anghysbell a heriol’. Mae’r rhan hon o’r llwybr i gyd ar hyd y glannau – dim ffyrdd, dim tai, ychydig o gamfeydd a dim cyfleusterau o gwbl. Does dim signal ffôn symudol ar y rhan fwyaf ohoni, ‘chwaith!
Freshwater West i Aberllydan (D) 10 milltir (16.1 Km)
Mae’n debyg mai hon yw’r rhan fwyaf gwastad o’r llwybr, ond yn anffodus mae cyfyngiadau ar lawer ohoni oherwydd defnydd milwrol. Er ei fod yn faes tanio, oherwydd ei faint (deng milltir sgwâr) a’r cyfyngiadau ar fynediad ac am nad yw llystyfiant y safle wedi cael ei drin na’i dorri ers rhyw 50 mlynedd, Range West yw un o warchodfeydd natur pwysicaf Prydain, a chaiff ei warchod gan rai o ddynodiadau cryfaf Ewrop. Gellir profi llawer o’r uchod trwy groesi Range East o Greigiau Elegig (Stack Rocks) i Aberllydan (i’r de). Mae Range East ar agor ar benwythnosau, gwyliau banc a’r rhan fwyaf o nosweithiau ar ôl 4.30pm, ond mae’n well gwirio amseroedd gyda’r wybodaeth wedi’i recordio ar 01646 662367.
Aberllydan (D) i Skrinkle Haven 11 milltir (17.7 Km)
Mae’r rhan hon wir yn dangos pam fod yr arfodir hwn yn haeddu statws Parc Cenedlaethol. Mae’n cynnwys traeth Barafundle, a gafodd ei ddewis yn un o ddeg traeth gorau’r byd trwy bleidlais yn ddiweddar! Mae hefyd yn ymyl y Pyllau Lilis enwog yn Bosherston sy’n warchodfa natur genedlaethol. Mae’r llwybr yn eithaf bryniog, ond fyddwch chi byth yn bell o draeth, tafarn bentref na thoiled!
Skrinkle i Amroth 14 milltir (22.5 Km)
Oherwydd y traethau hardd yn yr ardal a’r atyniadau i dwristiaid a’r cyfleusterau o amgylch Dinbych-y-pysgod mae’n debyg mai hon yw rhan brysuraf y llwybr cyfan gyda golygfeydd arbennig o Ynys Bŷr, ac arfordiroedd Gŵyr ac Exmoor.